English icon English
Perfumery

Cymru yn tynnu sylw at ganolfannau twristiaeth poblogaidd i roi hwb i'r farchnad ymwelwyr rhyngwladol

Wales highlights tourism hot spots to boost international visitor market

Mae prif brynwyr cwmniau teithiau y DU sy'n gwerthu gwyliau yn y DU i ymwelwyr rhyngwladol wedi bod yn teithio o amgylch Cymru yr wythnos hon i brofi arlwy twristiaeth y wlad drostynt eu hunain.

Roedd y daith pedwar diwrnod - a drefnwyd gan Croeso Cymru ac mewn partneriaeth â UKinbound - yn cysylltu'r prynwyr ag amrywiaeth o fusnesau twristiaeth o bob cwr o Gymru. Roedd y rhain yn cynnwys atyniadau, cwmnïau golygfeydd a gwestai sy'n awyddus i ddenu mwy o ymwelwyr rhyngwladol a gweithio gyda'r diwydiant teithio ehangach i wneud hynny.

Yn 2024, croesawodd Cymru 929,000 o ymwelwyr rhyngwladol, gan gynhyrchu mwy na £488m i economi Cymru a chefnogi miloedd o swyddi yn y diwydiant.

Roedd y daith yn cynnwys ymweliadau yn ne Cymru â'r Fenni, Castell Caerffili, rhagolwg o ganolfan ymwelwyr Pont Gludo Casnewydd, Gwinllan White Castle a thaith Gardd Llanofer a phrofiad unigryw Persawr Cymru.  Yna yn y gogledd taith Blasu Wrecsam, a chyfle i weld Safle Treftadaeth y Byd UNESCO Traphont Ddŵr Pontcysyllte a chrwydro Castell y Waun. 

Fe wnaeth y prynwyr hefyd gyfarfod â nifer o gyflenwyr yng Nghymru, gan gynnwys rheilffyrdd treftadaeth, cwmni bysiau, Cadw a Maes Awyr Caerdydd mewn digwyddiadau rhwydweithio yng Ngwesty'r Angel, y Fenni, a dros 70 o fusnesau o Gymru a'r DU o'r economi ymwelwyr rhyngwladol yn stadiwm STōK Cae Ras Clwb Pêl-droed Wrecsam.

Dywedodd Rebecca Evans, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am dwristiaeth:

"Mae Cymru yn parhau yn un o gyrchfannau mwyaf cyfareddol y byd, lle mae miloedd o flynyddoedd o hanes a diwylliant yn sicrhau bod ymwelwyr yn cael eu croesawu gydag ymdeimlad gwirioneddol o 'hwyl'.

"Yn benodol, rydym yn gweld galw cynyddol am deithiau wedi'u teilwra a phrofiadau bwyd a diod fel ein distyllfeydd, gwinllanoedd a theithiau bwyd, yn ogystal â cheisiadau o’r safon uchaf yn enwedig o'r Unol Daleithiau a Chanada.

"Mae'n wych cael y cyfle yr wythnos hon i ddangos beth sydd gan Gymru i'w gynnig i'r cwmnïau teithiau pwysig hyn gan wybod y rôl hanfodol y maent yn ei chwarae wrth ddenu ymwelwyr rhyngwladol." 

Wrth sôn am y digwyddiadau, dywedodd Prif Swyddog Gweithredol UKinbound Joss Croft OBE:

"Mae gan Gymru gymaint i'w gynnig i deithwyr rhyngwladol sy'n dymuno ymweld â'r DU, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gallu dod â'r grŵp gwych hwn o brynwyr i'r gyrchfan, gan roi cyfle iddynt weld beth sydd ar gael a sut y gallant ymgorffori Cymru yn y teithiau maen nhw'n eu gwerthu i ymwelwyr rhyngwladol.

"Gyda chymaint o ymwelwyr rhyngwladol wedi'u hysbrydoli i ymweld â lleoliadau maen nhw'n eu gweld ar y sgrin, roedd yn arbennig o werthfawr i'n prynwyr brofi Clwb Pêl-droed Wrecsam yn uniongyrchol, fel y gallant hyrwyddo'r rhan hon o Gymru i'w cleientiaid."

Dywedodd Jo Nugent, Rheolwr Gwerthu a Marchnata, Gwesty'r Angel yn y Fenni:

"Rydym wedi gweld canlyniadau sylweddol ers gweithio'n rhagweithiol gyda Croeso Cymru a thîm y diwydiant teithio ac rydym yn falch iawn o fod wedi croesawu mwy a mwy o westeion rhyngwladol o ganlyniad i'r buddsoddiad hwn.

"Byddwn yn argymell yn gryf i fusnesau twristiaeth gymryd rhan yn unrhyw weithgareddau y gallant o fewn y diwydiant teithio, o sioeau masnach a digwyddiadau rhwydweithio, i deithiau ymgyfarwyddo a chynnal cwmnïau unigol."