English icon English
WG and Irish Gov-2

Iwerddon a Chymru yn lansio Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25, 1 Mawrth 2021

Ireland and Wales launch Shared Statement and Joint Action Plan 2021-25, 1 March 2021

  • Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-2025 yn nodi’r uchelgais a’r cynlluniau ar gyfer y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru yn y blynyddoedd nesaf.

Heddiw, gwnaeth Gweinidog Materion Tramor Iwerddon, Simon Coveney TD, a Phrif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AS, gyhoeddi ‘Iwerddon-Cymru Cyd-ddatganiad a Chynllun Gweithredu ar y Cyd 2021-25’.

Mae’r Cyd-ddatganiad ffurfiol hwn yn nodi’r amcanion a’r cynlluniau ar gyfer y berthynas rhwng Iwerddon a Chymru yn y blynyddoedd nesaf, wrth i’r ddwy wlad weithio i gynyddu’r cydweithio a’r cydweithredu rhwng y Llywodraethau a phartneriaid ym myd busnes, y celfyddydau, chwaraeon a’r sector cymunedol.

Wrth siarad am y Cyd-ddatganiad newydd, dywedodd Gweinidog Materion Tramor Iwerddon:

“Rwy’n falch o nodi Dydd Gŵyl Dewi drwy gyhoeddi Cyd-ddatganiad Iwerddon-Cymru. Mae’n manylu ar ein huchelgais i gydweithio’n fwy â’n cymdogion yng Nghymru hyd 2025 a’r tu hwnt.

"Edrychaf ymlaen at weithio’n agos gyda Phrif Weinidog Cymru Mark Drakeford i gyflawni amcanion y Cyd-ddatganiad hwn a’r Cynllun Gweithredu cysylltiedig.

"Rwy’n croesawu’n arbennig ein bwriad i gynnal Fforwm blynyddol cyntaf Iwerddon-Cymru yn nes ymlaen eleni i ddod â rhanddeiliaid gwleidyddol ac economaidd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i feithrin perthynas, trafod y cydweithio sydd eisoes yn digwydd a chanfod rhagor o gyfleoedd i gydweithredu”.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:

Ar ein diwrnod cenedlaethol, rwyf wrth fy modd o lansio’r cyd-ddatganiad hwn ag Iwerddon. Mae’n darparu sylfaen ar gyfer ein hymrwymiad ar y cyd i gryfhau ein cysylltiadau gwleidyddol, economaidd a diwylliannol presennol.

"Mae’r amcanion yr ydyn ni’n eu rhannu yn bwysicach nag erioed wrth i’r ddwy wlad ddechrau adfer o bandemig COVID-19.

 "Edrychaf ymlaen at barhau i feithrin ein cysylltiadau presennol a dyfnhau’r cydweithredu â’n cymydog agosaf yn yr Undeb Ewropeaidd."

Wrth wraidd y fenter newydd hon y mae ymrwymiad ar y cyd i gynnal y berthynas agosaf posibl rhwng Iwerddon a Chymru, yn dilyn ymadawiad y DU â’r UE. Mae’r Cynllun Gweithredu Lefel Uchel ar y Cyd, a gyhoeddir gyda’r Cyd-ddatganiad, yn adeiladu ar y cydweithio sydd eisoes yn digwydd rhwng y ddwy wlad ar draws chwe maes allweddol. Nodir dros ddeugain o gamau gweithredu yn y meysydd canlynol: ymgysylltu gwleidyddol a swyddogol; yr hinsawdd a chynaliadwyedd; masnach a thwristiaeth; addysg ac ymchwil; diwylliant, iaith a threftadaeth; a chymunedau, Cymry/Gwyddelod ar wasgar a chwaraeon.

Mae’r camau gweithredu â blaenoriaeth yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer yr ymweliadau lefel uchel bob blwyddyn, gan adeiladu ar gyfarfodydd chwemisol y Taoiseach a Phrif Weinidog Cymru yn uwchgynadleddau’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a chreu rhagor o gyfleoedd ar gyfer ymgysylltu rhwng Gweinidogion
  • Cynnull Fforwm blynyddol cyntaf Iwerddon-Cymru yn 2021, gan ddod â Gweinidogion ac ystod eang o randdeiliaid at ei gilydd i feithrin perthynas, cyfnewid safbwyntiau polisi, rhannu dysg a sefydlu cynlluniau cydweithio
  • Cynnal ymgynghoriadau dwyochrog blynyddol rhwng swyddogion y llywodraethau, gan ganolbwyntio yn 2021/22 ar y meysydd polisi canlynol: Cymry/Gwyddelod ar wasgar; polisi iaith; addysg; tai; gweithio o bell; a chynaliadwyedd
  • Cyfnewid yr hyn a ddysgwyd ynglŷn â’r cynnydd tuag at weithredu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy, yn cynnwys gwybodaeth am ddeddfu ynghylch datblygu cynaliadwy yn sgil Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 a datblygu dangosyddion i fesur cynaliadwyedd a llesiant
  • Rhannu dulliau polisi a hybu cydweithredu ar gyfer adferiad gwyrdd o effaith COVID-19, gan gynnwys yn rhanbarthol yng Nghymru drwy Fargen Ranbarthol Gogledd Cymru, ac fel rhan o ranbarth ehangach y Northern Powerhouse
  • Pennu a hyrwyddo cyfleoedd ar gyfer cydweithio, symud a chyfnewid rhwng academwyr a rhwng myfyrwyr

Ceir camau gweithredu eraill sy’n rhag-weld mwy o gydweithio i adeiladu ar lwyddiant Rhaglen Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd Iwerddon-Cymru, cynyddu’r cysylltiadau seneddol, cydweithio ym maes ymchwil ynni adnewyddadwy, ysgoloriaethau ar gyfer yr Wyddeleg, ymgysylltu â Chymry/Gwyddelod ar wasgar, cyd-hyrwyddo cyfranogiad a chynwysoldeb mewn chwaraeon, a pharhau i gyd-drafod blaenoriaethau polisi drwy’r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig.