Konnichiwa! Cennad newydd yn cyflwyno busnesau o Gymru i Siapan mewn ymweliad rhithiol
Konnichiwa! Newly appointed envoy introduces Welsh businesses to Japan in virtual visit
Mae ugain o fusnesau o Gymru yn gobeithio hyrwyddo allforion i Siapan diolch i ymweliad â marchnad allforio rithiol a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru.
Mae Koji Tokumasu, cennad sydd wedi’i benodi’n ddiweddar gan Lywodraeth Cymru, oedd yn amlwg iawn wrth ddod â Chwpan Rygbi’r Byd i Siapan yn 2019, wedi bod yn cefnogi busnesau o Gymru ac yn cyfarfod gyda hwy i helpu iddynt hybu cysylltiadau ac allforion rhwng y ddwy wlad.
Yr ymweliad allforio rhithiol, a ddechreuodd yn ddiweddar ac sy’n digwydd dros y bedair wythnos nesaf, yw ei rôl swyddogol gyntaf ers cael ei benodi fis diwethaf.
Mae Llywodraeth Cymru, gan gydweithio gyda ei swyddfa yn Tokyo, wedi trefnu cyfres o gyfarfodydd ar gyfer busnesau Cymru ac mae’n darparu cymorth wedi’i deilwra.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn rhithiol oherwydd y pandemig.
Mae’r ymweliad yn rhoi’r cyfle i fusnesau o Gymru, o sectorau megis bwyd a diod, cynnyrch i ddefnyddwyr, gweithgynhyrchu a thechnoleg gwerth uchel, i arddangos eu cynnyrch a’u gwasanaethau, canfod cysylltiadau gwerthfawr a chynyddu eu hallforion yn y farchnad.
Mae busnesau sy’n cymryd rhan yn elwa o’r briffiadau i’r farchnad, cymorth personol gan Lywodraeth Cymru a chael eu cynnwys mewn marchnadoedd digidol.
Cafodd Siapan ei dewis fel gwlad i’w thargedu i hybu allforion o Gymru oherwydd bod ganddi y drydedd economi fwyaf yn y byd a’i bod y bedwaredd wlad sy’n masnachu fwyaf yn rhyngwladol.
Hefyd, mae’r DU a Siapan wedi llofnodi Cytundeb Masnach Rydd yn ddiweddar fydd yn rhoi parhad i fusnesau yng Nghymru sydd eisoes yn masnachu gyda’r wlad o dan delerau Cytundeb Parterniaeth Economaidd EU-Siapan. Gobeithir hefyd y bydd yn rhoi mwy o hyder i gwmnïau o Gymru sy’n allforio i Siapan a bydd yn annog BBaChau i’w hystyried yn farchnad allforio ar gyfer eu nwyddau.
Roedd allforion nwyddau Cymru i Siapan yn 2019 yn werth £295.9 miliwn.
Meddai Koji Tokumasu, a gafodd ei ddewis fel cennad oherwydd ei frwdfrydedd dros Gymru ac iddo fyw yno yn ystod y 70au: “Dwi’n edrych ymlaen at lunio cysylltiadau rhwng Cymru a Siapan a chwarae fy rhan yn hyrwyddo allforion rhwng y ddwy wlad fawr yma.
“Dwi’n benderfynol o wneud popeth y gallaf i godi proffil Cymru ar lwyfan y byd a chefnogi busnesau o Gymru yn eu hymdrechion i greu perthnasau, cysylltiadau, buddsoddiadau ac allforion gyda gwledydd fel Siapan.”
Meddai Ken Skates, y Gweinidog dros yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: “Mae’r ymweliadau hyn yn hynod bwysig i hybu allforion o Gymru, sydd wedi gweld effaith enfawr yn ystod y misoedd diwethaf oherwydd heriau parhaus y pandemig.
“Ers gadael yr Undeb Ewropeaidd, a’r ansicrwydd parhaus ar drefniadau yn dilyn diwedd y cyfnod pontio, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i gefnogi busnesau o Gymru i chwilio am farchnadoedd newydd ledled y byd.
“Mae angen inni ddefnyddio ein harbenigedd, ein cysylltiadau busnes a’n cysylltiadau, gan gynnwys gan ein cenhadon, i ddarparu’r platfform gorau i arddangos Cymru i’r byd a dangos ein bod ar agor i fusnesau.”