Lansiad yr ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer Awtistiaeth
Consultation on autism Code of Practice launched
Mae’r Gweinidog Iechyd Vaughan Gething heddiw [dydd Llun 21] wedi cyhoeddi ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer drafft statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth, a oedd wedi’i ohirio ers mis Ebrill yn sgil y pandemig coronafeirws.
Cyhoeddwyd blwyddyn arall o gyllid ar gyfer Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Cymru hefyd.
Mae’r ymgynghoriad yn ceisio ymatebion ar y Cod Ymarfer drafft a fydd yn rhoi eglurder ar yr hyn y mae angen i wasanaethau statudol ei ystyried wrth ddiwallu anghenion pobl awtistig, eu teuluoedd a’u gofalwyr.
Y pedwar maes allweddol dan sylw yw: asesu a diagnosis; cael gafael ar wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol; codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant am awtistiaeth; a chynllunio, monitro gwasanaethau ac ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Mae’r cyhoeddiad am gyllid i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn cadarnhau ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gymorth rheolaidd, a fydd yn awr ar gael tan 2022.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
“Ers imi roi’r diweddariad diwethaf ar y cynnydd a wneir yng Nghymru o ran cyflawni gwelliannau i’n gwasanaethau awtistiaeth, mae pob un ohonom wedi profi effaith pandemig COVID-19, ac roedd y sefyllfa o argyfwng yn golygu bod rhaid gwneud sawl penderfyniad anodd.
“Yn ogystal â chadarnhau ein hymrwymiad i’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig heddiw am 12 mis arall, mae’n bleser gennyf ddweud y gallwn yn awr gyflwyno drafft y Cod Ymarfer Statudol ar Gyflenwi Gwasanaethau Awtistiaeth a’r canllawiau cysylltiedig ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
“Bydd y Cod Ymarfer hwn yn effeithio ar sawl agwedd o fywydau plant, pobl ifanc ac oedolion gydag awtistiaeth - yn ogystal â’u teuluoedd a’u gofalwyr - ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn parhau i adeiladu ar y cydweithio a’r gwaith partneriaeth a welwyd cyn y coronafeirws. Gyda mesurau cadw pellter cymdeithasol yn golygu na allwn gynnal digwyddiadau ymgynghori cyhoeddus fel yn y gorffennol, rydym yn ystyried sut y gall technoleg ein helpu i sicrhau y gall pawb rannu eu barn ar y Cod drafft.”
Bydd yr ymgynghoriad yn para am 12 wythnos, tan 14 Rhagfyr.