Lansio cynllun Cynghorwyr Cenedlaethol Trais yn erbyn Menywod Llywodraeth Cymru ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn
Launch of Welsh Government VAWDASV National Advisers’ Annual plan on White Ribbon Day
Heddiw, ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, mae Cynghorwyr Cenedlaethol Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) yn rhyddhau eu cynllun blynyddol sy’n amlinellu eu hamcanion a’u blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn ariannol sy’n dechrau ar 1 Ebrill 2021.
Mae ymgyrch Rhuban Gwyn y Deyrnas Unedig gyfan yn ceisio codi ymwybyddiaeth o drais dynion yn erbyn menywod.
Mae symbol y rhuban gwyn yn cynrychioli’r argyhoeddiad nad yw camdriniaeth, o unrhyw fath, yn dderbyniol. Eleni, mae’r neges yn bwysicach nag erioed, yn sgil bod cynnydd sylweddol mewn trais, aflonyddwch a chamdriniaeth sy’n niweidio menywod yn ystod pandemig y coronafeirws.
Ar Ddiwrnod Rhuban Gwyn, mae miloedd o lysgenhadon yn herio ac yn gwrthwynebu trais yn erbyn menywod gan leisio’u barn.
Mae Nazir Afzal, cyn prif erlynydd a fu'n arwain ar achos y fasnach rhyw yn Rochdale, a Yasmin Khan, sylfaenydd elusen sy'n taclo trais ar sail anrhydedd, wedi bod yn Gynghorwyr Cenedlaethol i Lywodraeth Cymru ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) ers mis Ionawr 2018.
Mae Yasmin a Nazir yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015. Maent hefyd yn cydweithio â dioddefwyr, goroeswyr a sefydliadau sy'n bartneriaid, er mwyn trafod a llunio gwelliannau yn y modd y caiff gwasanaethau eu cynllunio, eu comisiynu a'u darparu.
Mae eu cynllun blynyddol yn pennu’r amcanion a’r blaenoriaethau ar gyfer 2021 i 2022. Mae hefyd yn adlewyrchu’r heriau a wynebir, a’r camau gweithredu sydd eu hangen ledled Cymru.
Dywedodd Jane Hutt:
“Rwy’n ddiolchgar iawn i’n Cynghorwyr Cenedlaethol gwych am eu harbenigedd a’u cyngor. Yng Nghymru, fel sy’n digwydd ar draws y byd, mae llawer gormod o fenywod yn dioddef cam-drin domestig a thrais rhywiol bob dydd. Ond fyddwn ni ddim yn cadw’n dawel.
“Drwy gydweithio, darparu addysg, codi ymwybyddiaeth a herio anghydraddoldebau ac agweddau negyddol sy’n cyfrannu at drais a chamdriniaeth, gallwn ni newid y sefyllfa.
“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddod â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol i ben. Fyddwn ni ddim yn gorffwys tan inni sicrhau mai Cymru yw’r wlad fwyaf diogel yn Ewrop i fenywod.”
Dywedodd Yasmin Khan:
"Mae'n bum mlynedd ers pasio Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015, a dyma'r meincnod o hyd ar gyfer mesur deddfwriaeth ar drais ar sail rhywedd ledled y Deyrnas Unedig.
"Ein prif amcan yn y cynllun blynyddol diwethaf oedd gweld a allai dull iechyd y cyhoedd o ymdrin â thrais yn erbyn menywod weithio, a chael ei roi ar waith ledled Cymru; dyma ein prif amcan o hyd yn y flwyddyn i ddod.
"Rydyn ni o’r farn mai dull ataliol yw'r ateb i ddileu trais yn erbyn menywod, a bod addysg yn ganolog i’r dull hwnnw. Felly, mwy o ymwybyddiaeth, mwy o arbenigaeth ac arbenigedd, gwaith atal amlasiantaethol, meithrin hyder dioddefwyr, gweithio gyda chyflawnwyr i'w helpu i newid eu hymddygiad, ac addysg i newid agweddau yw'r camau gweithredu allweddol i leihau, a thrwy hynny ddileu, achosion o gam-drin yn y pen draw. Mae Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad o ran yr hyn y gellir ei gyflawni."
Yn ei fideo, fel Llysgennad Rhuban Gwyn, dywedodd y Cynghorydd Cenedlaethol Nazir Afzal:
"Bydd un o bob pedair menyw yn dioddef cam-drin domestig a bydd ymosodiad rhywiol ar un o bob pump yn ystod eu hoes; mae mwy na hanner y menywod yn cael eu haflonyddu'n rhywiol yn ystod eu gyrfa; bydd tair menyw yn cymryd eu bywyd eu hunain, a bydd dwy fenyw yn marw bob wythnos oherwydd cam-drin domestig. Yn ystod pandemig presennol Covid bu cynnydd aruthrol yn nifer yr achosion o gam-drin domestig a thrais rhywiol a thrais yn erbyn menywod.
"Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen i bobl sefyll yn erbyn cam-drin domestig. Mae bod yn llysgennad Rhuban Gwyn yn ffordd o ddweud y byddwch chi’n gwneud gwahaniaeth. Ac os byddwch chi’n gweithredu'n wahanol, gallwch chi fod yn sicr y bydd bywydau'n cael eu hachub."