Lansio cynllun i gefnogi addysg ôl-16
Plan launched to support education for over-16s
Mae’r cynllun wedi ei anelu at roi addysg i ddysgwyr 16 oed a throsodd, gan gynnwys addysg bellach ac uwch, prentisiaethau, cyflogadwyedd a dysgu oedolion.
Heddiw, mae’r ‘Cynllun Cadernid Covid-19 ar gyfer y Sector Ôl-16’ wedi cael ei lansio, gan nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â cholegau, prifysgolion a darparwyr hyfforddiant er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn cael cefnogaeth drwy gydol y pandemig presennol.
Mae’r cynllun yn nodi grwpiau â blaenoriaeth, sydd fwyaf angen cymorth ac yn nodi disgwyliadau mewn perthynas â sut y bydd darparwyr addysg a Llywodraeth Cymru yn cydweithio i ddarparu cymorth wrth ymateb i COVID-19 a sut y byddwn yn rhoi gwybod am y penderfyniadau allweddol.
Ers i ddarparwyr addysg roi’r gorau i ddysgu wyneb yn wyneb ar 20 Mawrth, mae’r colegau a’r prifysgolion wedi mynd ati i ddarparu darlithoedd, tiwtorialau ac adolygiadau ar-lein a dysgu o bell, yn ogystal â sicrhau bod dysgwyr mwy bregus yn cael cymorth a chefnogaeth.
Mae tair rhan i’r cynllun – mae’r cam presennol, achub, yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan ddarparwyr addysg sicrwydd uniongyrchol o ran cyllid a threfniadau dysgu yn eu lle y flwyddyn academaidd hon; mae’r cyfnod 'adolygu' yn cynllunio ar gyfer newidiadau posibl yr hydref hwn; a bydd y cyfnod ' adnewyddu ' yn rhoi trefniadau ar waith ar gyfer gweddill blwyddyn academaidd 2020-21.
Mae'r cynllun yn nodi’r dysgwyr y mae'r coronafeirws yn debygol o amharu arnynt fwyaf, gan gynnwys Blwyddyn 11 ac 13, a dysgwyr galwedigaethol y mae angen iddynt gael mynediad i golegau neu weithleoedd i gwblhau eu cyrsiau. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu’r adnoddau ar-lein ar gyfer ôl-16 drwy’r llwyfan Hwb, ac mae arno adnoddau dysgu o bell ar gael ar gyfer dysgwyr a darparwyr.
Daw’r Cynllun Cadernid ar ôl cyhoeddi’r cynllun parhad dysgu ar gyfer ysgolion, a gyhoeddwyd fis diwethaf, sef Cadw’n Ddiogel, Dal ati i Ddysgu.
Mae’r Gweinidog Addysg hefyd wedi cyhoeddi y bydd cyllid cyfalaf o £1.3m, rhan o raglen Sêr Cymru yn cael ei ddefnyddio i annog prifysgolion Cymru i gyflwyno cynigion ymchwil newydd a allai gyfrannu at yr ymchwil i effeithiau COVID-19, neu i gario ymchwil yn y maes hwnnw ymlaen.
Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:
“Mae'r coronafeirws wedi cyflwyno heriau enfawr i fyfyrwyr a darparwyr addysg dros y cyfnod hwn ac am y tymor hir. Bydd y Cynllun Cadernid hwn yn rhoi ffocws clir fel y gallwn gydweithio â'n partneriaid addysg i oresgyn yr heriau hyn.
“Bydd y cynllun hwn yn ategu ein cynllun parhad dysgu ar gyfer ysgolion, 'Cadw'n ddiogel. Dal ati i ddysgu', ond bydd hefyd yn cydnabod y lefelau uwch o ymreolaeth ac amrywiaeth addysg a hyfforddiant a ddarperir gan y sector ôl-16.
“Mae ein colegau, ein prifysgolion a'n darparwyr hyfforddiant yn hanfodol i'r ymateb cenedlaethol i'r coronafeirws ac ailadeiladu'r economi. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi."
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
“Rydym am ddod allan o’r pandemig hwn yn gryfach nag erioed, gan adeiladu gwell economi yn genedlaethol, gyda chyflogaeth, cyfoeth a ffyniant yn cael eu dosbarthu’n fwy cyfartal drwy Gymru. Mae’r sector addysg ôl-16 yn hanfodol i hyn.
“Wrth i ni lunio ein cynllun adfer o effeithiau’r coronafeirws, rydym yn benderfynol o wneud popeth o fewn ein gallu i roi sylfaen gref i’r rheini sy’n chwilio am swydd, i ddysgwyr, prentisiaid a hyfforddeion i fynd o nerth i nerth yn y dyfodol.
“Mae’r cyfnod heriol hwn eisoes wedi tynnu sylw at dalent, ymroddiad a gwytnwch ein darparwyr dysgu a hyfforddiant mewn perthynas â rhoi cymorth i unigolion yma yng Nghymru. Bydd ymdrechion fel hyn yn help i sicrhau ein bod yn dod drwyddi yn gryfach nag erioed.”