English icon English

Lansio cynllun peilot e-Feiciau yng Nghymru

E-bike pilot scheme to launch in Wales

Bydd Llywodraeth Cymru yn ariannu cynlluniau peilot i gyflymu'r defnydd o feiciau trydan (e-Feiciau) a beiciau cargo trydan (e-Cargo) yng Nghymru.

Dywedodd Lee Waters fod y penderfyniad yn rhan o ymdrechion i sicrhau newid diwylliant yn y ffordd y mae pobl yn teithio yng Nghymru, gan greu rhwydwaith trafnidiaeth gwyrddach a mwy cyfleus.

Mae enghreifftiau rhyngwladol wedi dangos bod e-Feiciau yn ddewis ymarferol yn lle'r car i rai pobl. Felly, mae'r cynlluniau yn ychwanegu at amryw o bolisïau gan Lywodraeth Cymru sy'n ceisio mynd i'r afael â thagfeydd a chael pobl i fod yn fwy egnïol.

Bydd y cynlluniau peilot yn gweld pedwar 'hyb' e-Feic yn cael eu sefydlu yn y Rhyl, Abertawe, Aberystwyth (gyda chysylltiadau â'r Drenewydd) a'r Barri. Byddant yn cynnig llogi cost isel a benthyciadau hirdymor o e-Feiciau i drigolion lleol.

Bydd dwy 'lyfrgell' beiciau e-Cargo yn cael eu sefydlu yn Aberystwyth ac Abertawe, gan gynnig treialon am ddim o feiciau e-Cargo yn ogystal â chyngor a hyfforddiant i fusnesau a thrigolion lleol. Mae beiciau e-Cargo yn cynnig y potensial i leihau traffig gan faniau, er enghraifft cael eu defnyddio ar gyfer dosbarthu y filltir olaf.

Rhagwelir y bydd y cynlluniau, a fydd yn rhedeg dros ddwy flynedd, ar agor i'r cyhoedd a busnesau yn yr haf.

Mae Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth ddrafft Llywodraeth Cymru, wedi ymrwymo i leihau allyriadau o'r sector trafnidiaeth yn sylweddol.

Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

"Rydyn ni eisiau rhoi mwy o ddewisiadau i bobl o sut i fynd o gwmpas, ac yn arbennig rydyn ni eisiau gwneud mathau gwyrddach o drafnidiaeth yn fwy cyfleus a hygyrch. Mae teithio cynaliadwy yn gofyn am newid diwylliant ac mae'r cynlluniau peilot yn gam arall tuag at gyflawni ein nod.

"Mae cysylltiad cryf rhwng e-Feiciau a theithio llesol wrth i fwy o bobl ddod i arfer â bod ar feiciau. Mae manteision penodol hefyd mewn cymunedau gwledig lle mae mwy o bellter yn fwy cyffredin, gydag e-Feiciau yn gwneud beicio'n ymarferol i fwy o bobl.

"Bydd y cynlluniau peilot hyn yn cael eu defnyddio i gasglu tystiolaeth a llywio polisi, gyda'r bwriad o'u cyflwyno'n ehangach yn y dyfodol."

Bydd Sustrans Cymru yn gweithio gyda mentrau cymdeithasol lleol i gyflwyno'r cynlluniau peilot hyn. Byddant yn ymgysylltu â chyfranogwyr ac yn defnyddio monitorau sydd wedi'u gosod ar e-Feiciau a beiciau e-Cargo i ddatblygu sylfaen dystiolaeth.

Dywedodd Christine Boston, Cyfarwyddwr Sustrans Cymru:

"Mae Sustrans Cymru wrth eu bodd yn cyflawni'r prosiect peilot hwn mewn pum lleoliad ledled Cymru. Mae gan e-Feiciau a beiciau e-Cargo y potensial i drawsnewid y ffordd y mae pobl yn meddwl am deithio llesol.

"Drwy weithio'n uniongyrchol gyda chymunedau, byddwn yn casglu data gwerthfawr o adborth cyfranogwyr gan gynnwys patrymau teithio, rhwystrau ac anghenion datblygu’e rhwydwaith. Bydd hyn yn ei dro yn helpu i hysbysu Llywodraeth Cymru o'r potensial sydd gan e-Feiciau i ddatgarboneiddio trafnidiaeth.

"Bydd y prosiect yn grymuso pobl na fyddent fel arfer yn beicio i roi cynnig ar ffordd gynaliadwy o deithio. Bydd hefyd yn cynnig opsiwn teithio amgen i'r rhai nad ydynt efallai'n berchen car."