Lansio cynlluniau newydd ar gyfer rhwydweithiau teithio hygyrch a chynhwysol
New plans for accessible and inclusive travel networks launched
Mae cynlluniau newydd wedi'u lansio heddiw i roi mwy o hyder ac annibyniaeth i bobl ledled Cymru wrth deithio.
Mae Teithio i Bawb yn sefydlu pum egwyddor allweddol i drawsnewid rhwydweithiau trafnidiaeth: sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel a theimlo’u bod yn cael eu croesawu, gwella hygyrchedd, cynnwys defnyddwyr mewn penderfyniadau dylunio, ac ymgorffori newid parhaol ar draws pob dull trafnidiaeth.
Bydd darparwyr trafnidiaeth yn derbyn safonau newydd a chanllawiau ymarferol a ddatblygwyd gyda phobl anabl, tra bydd staff sy'n delio â chwsmeriaid ar draws y rheilffyrdd, bysiau a gwasanaethau eraill yn cael hyfforddiant rheolaidd ar faterion cydraddoldeb gan gynnwys ymwybyddiaeth o anabledd. Bydd rhwystrau ffisegol yn cael eu herio trwy osod goleuadau gwell, llwybrau hygyrch, a chyfleusterau gwell mewn gorsafoedd ac arosfannau.
Mae'r lansiad yn cael ei gynnal ym Mhrosiect Porth Wrecsam, lle mae gwelliannau hygyrchedd eisoes yn mynd rhagddynt, gan gynnwys palmant botymog gwell, drysau hygyrch, cyfleusterau lleoedd newid, a llwybrau di-rwystrau.
Mae aelodau o Banel Hygyrchedd a Chynhwysiant cyfredol Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn rhan o brosiect Porth Wrecsam, yn cynghori ar y gwelliannau hygyrchedd gan gynnwys pwyntiau cymorth newydd.
Mae Amanda Say yn aelod o'r panel ac yn teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus sawl gwaith yr wythnos er mwyn cyrraedd cyfarfodydd ac ar gyfer dibenion hamdden. Dywedodd: "O ran hygyrchedd, gall fod yn dipyn o her cynllunio unrhyw daith. Mae'n gwella. Mae'n debyg mai teithio ar y trên yw'r hawsaf, tra bo bysiau yn llawer mwy heriol. Os gallwn gysylltu'r holl lwybrau teithio llesol gyda'i gilydd, mae teithio am fod yn haws o lawer i bawb."
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: "Nid ychwanegiadau dewisol yw hygyrchedd a chynhwysiant - maen nhw'n hawliau sylfaenol. Mae Porth Wrecsam yn dangos beth y gellir ei gyflawni pan fyddwn yn datblygu seilwaith trafnidiaeth mewn partneriaeth â phobl anabl, gan roi eu harbenigedd a'u profiad byw wrth wraidd penderfyniadau dylunio.
“Mae ymgorffori hygyrchedd yn ein seilwaith o'r cychwyn cyntaf yn golygu ei fod bob amser ym mlaen meddwl pawb, ac mae hefyd yn arbed amser ac arian drwy osgoi gwaith ôl-osod.”
Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gyflawni prosiectau trafnidiaeth sy'n hygyrch ac yn gynhwysol i bawb, ac yn rhoi pobl yng nghanol y broses ddylunio fel bod cwsmeriaid yn teimlo'n ddiogel a theimlo’u bod yn cael eu croesawu wrth deithio yng Nghymru. Bydd Teithio i Bawb yn ganllaw allweddol i sicrhau ein bod yn cael gwared ar rwystrau teithio ar draws ein rhwydwaith trafnidiaeth.
"Mae prosiect Porth Wrecsam yn enghraifft wych o roi egwyddorion y cynllun ar waith o'r dyluniad i'w gyflawni, drwy wella hygyrchedd, gwella profiad cwsmeriaid a sicrhau bod gorsaf Gyffredinol Wrecsam yn borth deniadol i ganol dinas Wrecsam."
Mae Teithio i Bawb yn cefnogi ymrwymiad ehangach Llywodraeth Cymru i hawliau pobl anabl drwy'r ymgynghoriad presennol ar y Cynllun Hawliau Pobl Anabl 10 mlynedd. Nod y cynllun yw creu Cymru lle gall pobl anabl fyw, gweithio a ffynnu heb wynebu rhwystrau hirsefydledig, gan ganolbwyntio ar wella hygyrchedd corfforol, cynhwysiant economaidd, a mynediad at wasanaethau cyhoeddus. Mae'r ymgynghoriad yn dod i ben ar 7 Awst 2025 ac mae'n ceisio mewnbwn gan bobl anabl a'u teuluoedd ledled Cymru.