English icon English

Lansio gwasanaeth bws gwell yn y Gogledd

Improved bus service launched in North Wales

Mae gwasanaeth bws newydd sy'n cysylltu cymunedau rhwng y Rhyl a Wrecsam yn cael ei lansio heddiw.

Bydd T51 TrawsCymru yn ei gwneud yn haws teithio ar fws rhwng y Rhyl, Dinbych, Rhuthun a Wrecsam.

Mae'r newidiadau - sy'n rhan o Rwydwaith y Gogledd - yn cynyddu’r bysiau sy'n rhedeg rhwng Rhuthun a Wrecsam i un bob awr (yn lle un bob dwy awr) ac yn cyflwyno gwasanaeth newydd bob awr rhwng Wrecsam a'r Rhyl ar ddydd Sul.

Mae'r T51 wedi cymryd lle'r gwasanaeth 51 / X51 a bydd yn cael ei weithredu gan Arriva.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:

"Rwy'n falch o weld bod cysylltiadau yn y rhan hon o'r wlad yn dechrau gwella, diolch i'n gwaith ar Rwydwaith y Gogledd.

"Gwella trafnidiaeth gyhoeddus yw'r allwedd i wireddu potensial y rhanbarth ac mae'r gwasanaeth TrawsCymru newydd hwn sy'n cynnig bysiau amlach, yn enghraifft wych o hynny."

Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru:

"Mae'r T51 yn garreg filltir gynnar i Rwydwaith y Gogledd, ac yn dangos sut y bydd cydlynu gwell rhwng gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd yn creu cyfleoedd ar draws y rhanbarth.

"Bydd y gwasanaeth newydd yn helpu i drawsnewid teithio yn y Gogledd gan roi gwasanaeth amlach a mwy cyfleus i bobl rhwng y Rhyl, Dinbych, Rhuthun a Wrecsam.

"Mae bysiau amlach, prisiau symlach a system docynnau gwell yn gwneud trafnidiaeth gyhoeddus yn opsiwn bob dydd i fwy o bobl, gan gefnogi swyddi ac addysg leol."

Bydd y T51 newydd yn cynnig prisiau symlach ac is, a'r opsiwn i brynu tocynnau digidol.

Mae'r gwaith ar raglen Rhwydwaith y Gogledd yn parhau ac o fis Mawrth 2026 bydd llwybr y T51 yn cael ei integreiddio'n well â gwasanaethau rheilffyrdd a llwybrau eraill TrawsCymru, gyda fflyd o gerbydau modern cysurus a chynaliadwy.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys yr amserlen ddiweddaraf, ewch i wefan TrawsCymru.