English icon English

Lansio Llwybr Profedigaeth newydd i gefnogi’r rhai sy’n colli plentyn neu berson ifanc yn sydyn

New Bereavement Pathway launched to support those through the sudden loss of a child or young person

Gwella gofal profedigaeth yw un o ymrwymiadau allweddol y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle. Heddiw, mae’r cyntaf mewn cyfres o lwybrau profedigaeth pwrpasol a fydd yn cefnogi pobl drwy fath arbennig o brofedigaeth yn cael ei gyhoeddi.

Bydd y llwybr pwrpasol cyntaf yn cefnogi'r rhai sydd wedi colli plentyn neu berson ifanc yn sydyn neu mewn modd trawmatig.

Ers i’r Fframwaith Profedigaeth Cenedlaethol gael ei gyhoeddi ddiwedd 2021, mae’r Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, sy’n dod â’r GIG a nifer o elusennau a sefydliadau’r trydydd sector ynghyd, wedi bod yn datblygu llwybrau pwrpasol newydd. Bydd y llwybrau yn darparu gwybodaeth a chanllawiau i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol i sicrhau dull gweithredu cyson i deuluoedd sy’n cael profedigaeth yng Nghymru.

Lansiodd y Dirprwy Weinidog y Llwybr Cymorth Uniongyrchol newydd ar gyfer Marwolaeth Sydyn ac Annisgwyl mewn Plant a Phobl Ifanc hyd at 25 mlwydd oed yn ystod Taith yr Eliffant, a gynhaliwyd gan yr elusen brofedigaeth, 2Wish, yng Nghaerdydd. Datblygwyd y llwybr yn dilyn deiseb a ddechreuwyd gan Brif Weithredwr 2Wish, Rhian Mannings, a dadl a ddilynodd yn y Senedd ym mis Tachwedd 2021. Cymerodd dros 120 o bobl ran yn Nhaith yr Eliffant ym Mharc Bute, lle ddaeth teuluoedd a ffrindiau at ei gilydd i gofio’r anwyliaid a gollwyd yn rhy gynnar.

Mae 2Wish yn rhan o’r Grŵp Llywio Profedigaeth Cenedlaethol ac mae wedi cyfrannu at y fframwaith newydd. Mae 2Wish hefyd wedi derbyn cyllid grant gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar, i gefnogi prosiect a fydd yn sicrhau bod cymorth uniongyrchol yn cael ei gynnig i unigolion sy’n cael eu heffeithio gan farwolaeth sydyn plentyn neu berson ifanc.

Dechreuodd y Dirprwy Weinidog y daith gerdded ochr yn ochr â chyfarwyddwr sefydlu 2Wish, Rhian Mannings. Yn ystod y daith, cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth gan gynnwys Steph ac Anthony Jones, rhieni Ffion, Elinor Ridout, mam William a Jonathan a Lauren Jones, rhieni Osian.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

“Mae profedigaeth yn effeithio arnom ni i gyd mewn ffyrdd gwahanol, ac rydw i wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth a gofal ar gael i bawb ledled Cymru. Gan weithio’n agos gyda’r Grŵp Llywio Profedigaeth, rydyn ni’n gwneud gwelliannau i ofal profedigaeth, ac hynny’n gyflym. Rydyn ni am i fyrddau iechyd edrych ar y llwybrau enghreifftiol hyn, ac wrth weithio gydag asiantaethau partner, eu haddasu i anghenion eu cymunedau lleol.

“Mae 2Wish ac elusennau eraill ar draws Cymru yn darparu gwasanaethau hanfodol, ac wrth weithio gyda’n gilydd, gallwn gefnogi pobl drwy eu galar.”

Dywedodd Rhian Mannings, Cyfarwyddwr Sefydlu 2 Wish:

“Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi datblygu’r llwybr. Pan fydd teulu’n colli plentyn yn sydyn, mae’n hollbwysig bod cymorth yn cael ei gynnig ar unwaith. Ni ddylai teuluoedd orfod chwilio am help, a bydd y llwybr yn sicrhau bod teuluoedd yn cael cynnig cymorth pan fo’i angen arnynt fwyaf. Mae 2Wish yn gweithio gyda phob bwrdd iechyd a heddlu ar draws Cymru, ac rydyn ni’n derbyn atgyfeiriadau’n ddyddiol. Fodd bynnag, bydd y llwybr hwn yn sicrhau bod na fydd unrhyw teulu yn cael ei anghofio.”

 DIWEDD