English icon English
IMG 20200304 133355-2

Lansio Partneriaeth Coffi newydd i helpu ffermwyr a chynhyrchwyr yn y byd datblygol i daclo'r argyfwng hinsawdd

Launch of Climate Change Coffee Partnership to help farmers and producers in the developing world tackle the climate emergency

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi partneriaeth fydd yn helpu mwy na 3,000 o ffermwyr Masnach Deg yng nghefn gwlad Uganda i gael pris teg am eu coffi - a'u helpu yr un pryd i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Mae Llywodraeth Cymru yn noddi partneriaeth fydd yn helpu mwy na 3,000 o ffermwyr Masnach Deg yng nghefn gwlad Uganda i gael pris teg am eu coffi - a'u helpu yr un pryd i ymladd yn erbyn y newid yn yr hinsawdd.

Mae'r Bartneriaeth Coffi Newid Hinsawdd ryngwladol, sydd â sefydliadau o Gymru ac Uganda yn aelodau ohoni, yn lansio menter newydd. 

Bydd Llywodraeth Cymru'n noddi'r bartneriaeth i brynu coffi oddi wrth gynhyrchwyr yn Uganda ar gyfer ei fragu a'i yfed yma.

Mae'r Bartneriaeth yn ffrwyth bron 10 mlynedd o waith, sydd wedi gweld ffermwyr Masnach Deg ac organig ym Mbale, Uganda yn ymuno â mudiadau yng Nghymru i edrych ar ffermio, y newid yn yr hinsawdd a masnach gynaliadwy.

Mae ffermwyr yn ardal Mbale yn dioddef yn sgil effaith newidiadau eithafol yn yr hinsawdd gan gynnwys sychder, stormydd a thirlithriadau - ond nhw sydd wedi cyfrannu leiaf at y newid hwnnw yn yr hinsawdd.

Mae'r Bartneriaeth am sicrhau bod ffermwyr y rhanbarth yn cael pris teg am eu coffi a bywoliaeth gynaliadwy iddyn nhw eu hunain a'u cymunedau - i'w helpu i ddatblygu'r galluoedd i fedru cyfrannu at y frwydr yn erbyn y newid yn yr hinsawdd - a gwerthu coffi Masnach Deg ac Organig o'r ansawdd gorau i bobl Cymru.

Cyhoeddwyd nawdd Llywodraeth Cymru i'r fenter gan Eluned Morgan, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol a'r Gymraeg, wrth lansio'r Bartneriaeth yn y Senedd gyda Jenipher Sambazi, ffermwr coffi ac is-gadeirydd MEACCE.

Dywedodd y Gweinidog: "Mae'r bartneriaeth hon yn ddatblygiad cyffrous iawn fydd yn golygu bod pobl yn tyfu coffi gwych am bris teg.

Mae'r newid yn yr hinsawdd wedi bod yn ddifaol i ffermwyr Uganda er mai ychydig iawn iawn o allyriadau maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw.

"Mae gan Gymru hen berthynas â Mbale ac rydyn ni am fanteisio ar bob cyfle i roi'r help sydd ei angen ar gymunedau sy'n gorfod delio â'r argyfwng hinsawdd ar lawr gwlad trwy fasnachu â nhw ar delerau Masnach Deg."

"Dyma enghraifft wych o sut y gall yfwyr coffi yng Nghymru wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau'r bobl sy'n tyfu'r coffi."

Dywedodd Jenipher Sambezi, "Os gallwn ni werthu'n coffi ar delerau Masnach Deg, bydd hynny'n helpu'n busnesau i dyfu ac addasu i'r newid yn yr hinsawdd." 

"Mae Masnach Deg yn gwarantu pris gwell inni am ein coffi a bydd y gymuned yn gwario premiwm Masnach Deg ar brosiectau fydd yn ein helpu i wella'n bywydau."

MEACCE yw un o'r 4 partner sy'n plannu coed gyda Maint Cymru ym Mbale. Mae rhagor na 10 miliwn o goed wedi'u plannu hyd yma ond y nod yw plannu 25 miliwn erbyn 2025.

Dywedodd Jenipher hefyd, "Mae coffi'n sensitif iawn i hyd yn oed y cynnydd lleia yn y tymheredd. Mae'r coed rydym ni'n eu plannu gyda help Cymru yn rhoi cysgod i gadw'n llwyni coffi rhag gordwymo ac yn cadw ansawdd ein coffi'n uchel."

Ychwanegodd y Gweinidog: "Mae pob un o'r partneriaid yn cyfrannu at ei lwyddiant, ond rydym am chwarae'n rhan, fel Llywodraeth Cymru, i helpu lle medrwn, gan fod nodau'r Bartneriaeth yn cyfateb yn union i'r rheini a ddisgrifir yn ein Strategaeth Ryngwladol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol."

DIWEDD