Lansio system graddau newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru
New ratings system for care services launches in Wales
Bydd system graddau arolygu newydd ar gyfer gwasanaethau gofal yng Nghymru yn dod i rym ar 1 Ebrill i helpu i sicrhau bod pobl yn cael y gofal gorau posibl.
Bydd y graddau yn helpu pobl i ddeall mwy am ansawdd y gofal sy’n cael ei ddarparu. Bydd yn haws, felly, i unigolion a theuluoedd wneud penderfyniadau sydd wedi’u seilio ar yr wybodaeth berthnasol am eu dewisiadau gofal.
Yn dilyn arolygiad, bydd pob cartref gofal a gwasanaeth cymorth cartref ar draws Cymru yn cael graddau. Bydd yn rhaid i’r mwyafrif ohonynt arddangos y graddau hynny ar y safle ac ar-lein.
Bydd y graddau yn rhoi arwydd clir o ansawdd y gofal ar draws pedair thema allweddol: Llesiant; Gofal a Chymorth; Arweinyddiaeth a Rheolaeth; ac Amgylchedd.
Bydd penderfyniad yn cael ei wneud am bob thema i nodi ei bod yn rhagorol, da, angen gwella neu angen gwella’n sylweddol.
Cafodd ymgynghoriad ei gynnal y llynedd gan Lywodraeth Cymru ar y sgoriau arolygu ar gyfer gwasanaethau cartrefi gofal a gwasanaethau cymorth cartref.
Mae’r system newydd wedi’i datblygu drwy gydweithio’n agos â darparwyr a chomisiynwyr gofal ledled Cymru, a bydd yn helpu i gymell safonau o ansawdd uchel ar draws gwasanaethau gofal.
Bydd Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn cefnogi gwasanaethau i roi’r system newydd ar waith. Bydd y graddau yn cael eu dangos yn glir mewn adroddiadau arolygu, ar wefan AGC ac ar bosteri i’r darparwyr gwasanaethau eu harddangos.
Dros y misoedd nesaf, bydd mwy a mwy o wasanaethau yn arddangos eu graddau. Fodd bynnag, bydd yn cymryd hyd at ddwy flynedd i’r holl wasanaethau perthnasol gael eu harolygu a chael eu graddau.
Mae’r system newydd yn cynrychioli newid sylweddol a phwysig ar gyfer cefnogi gwelliannau parhaus.
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol: “Mae gan wasanaethau gofal ledled Cymru rôl hanfodol i ofalu am bobl. I lawer o bobl, gall gwasanaeth gofal hefyd fod yn gartref iddyn nhw, lle maen nhw’n byw ac yn ffynnu. Rydyn ni am barhau i sicrhau eu bod nhw’n derbyn y gofal gorau posibl.
“Bydd y graddau hyn o gymorth i bobl wrth iddyn nhw wneud penderfyniadau pwysig i ddewis beth sy’n iawn iddyn nhw ac i gefnogi eu lles.
“Byddan nhw hefyd o gymorth i’r darparwyr gwasanaethau, er mwyn nodi’n union beth yw eu cryfderau yn ogystal â’r meysydd lle mae angen iddyn nhw dyfu a datblygu.
“Hoffwn i ddiolch i’r sector am eu gwaith i’n helpu i ddatblygu’r system.”
Dywedodd Gillian Baranski, y Prif Arolygydd yn Arolygiaeth Gofal Cymru: “Bydd y system graddau newydd hon yn helpu pobl i wneud dewisiadau sy’n seiliedig ar y dystiolaeth am wasanaethau gofal ac yn cefnogi darparwyr hefyd i wella ansawdd y gofal maen nhw’n ei ddarparu yn barhaus.
“Mae’r rhan fwyaf o ofal yng Nghymru yn ofal da. Bydd y graddau yn tynnu sylw at yr hyn sy’n gweithio’n dda ac yn cefnogi gwelliannau lle y bydd eu hangen ledled Cymru.”