English icon English
plastic-waste-3962409 1920-3

Lansio ymgynghoriad ar gynlluniau i leihau plastig untro yng Nghymru

Consultation launched on plans to reduce single use plastics in Wales

Mae’r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn, wedi lansio ymgynghoriad ar gynigion Llywodraeth Cymru i wahardd ystod o eitemau plastig untro.

Cyn glanhau traethau ar Ynys Môn, sef yr awdurdod lleol cyntaf yng Nghymru i dderbyn statws anblastig, dywedodd Hannah Blythyn ei bod am glywed gan bobl Cymru sut y gall y wlad chwarae rhan flaenllaw yn yr ymdrech fyd-eang i fynd i’r afael â’r broblem o wastraff plastig.

Nod Llywodraeth Cymru yw cael gwlad nad yw’n defnyddio plastigion untro diangen. Pe byddai’r cynigion yn cael eu rhoi ar waith, byddai’n rhaid gwahardd ystod o eitemau plastig untro sy’n anodd eu hailgylchu ac sy’n aml yn cael eu taflu fel sbwriel. Ymysg yr eitemau hyn mae gwellt plastig, ffyn cotwm a pholystyren sy’n dal bwyd a diod. Mae’r cam gweithredu hwn yn rhan o waith mwy o fynd i’r afael â’r broblem o lygredd plastig, lleihau sbwriel a helpu i symud Cymru tuag at economi gylchol.

Mae llygredd plastig a sbwriel yn effeithio ar bob amgylchedd yng Nghymru ac mae plastigion untro yn cyfrif am gyfran sylweddol o’r sbwriel sydd i’w weld ar strydoedd a thraethau ac mewn parciau yng Nghymru. Yn ystod cyfnod cyfyngiadau symud COVID-19, cyfnod gwahanol ac anodd, cafodd llawer o bobl ledled Cymru gyfle prin i ailddarganfod eu hardaloedd lleol a dod i’w gwerthfawrogi’n well. Fodd bynnag, wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio, mae mwy o sbwriel i’w weld.

Bydd y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad yn adeiladu ar ymdrechion cymunedau ledled Cymru i fynd yn ddiblastig drwy gael gwared ar blastigion sy’n dueddol o gael eu taflu fel sbwriel o’r gadwyn gyflenwi ac, yn sgil hynny, o’r amgylchedd. Mae llawer o fusnesau eisoes yn ymateb i’r galw gan gwsmeriaid am gynnyrch mwy cynaliadwy ac mae ein cynigion yn ceisio cyflymu’r newid hwn.

Wrth lansio’r ymgynghoriad yn ystod y sesiwn glanhau traethau ar Ynys Môn, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:

“Mae llygredd plastig a’r effaith y mae’n ei chael ar ein hamgylchedd yn aml yn cael sylw yn y cyfryngau, ar-lein ac mewn sgyrsiau rwy’n eu cael bob dydd â phobl ledled Cymru. Mae’n difetha ein cymunedau ac yn cael effaith ddinistriol ar ein bywyd gwyllt.

Wrth i fis Gorffennaf diblastig ddirwyn i ben ac wrth i’r cyfyngiadau gael eu llacio yng Nghymru, rwyf am glywed gan gymunedau o bob cwr o Gymru sut gallwn weithio gyda’n gilydd i fynd i’r afael â sbwriel a dod yn llai dibynnol ar blastigion untro. Mae’r ymgynghoriad yr wyf yn ei lansio heddiw yn gam pwysig tuag at y nod hwn a bydd y cynigion y mae’n eu nodi yn chwarae rhan allweddol wrth inni adfer ein hamgylchedd.

Mae ein cymunedau wedi arwain y ffordd o ran lleihau gwastraff plastig. Gobeithio y bydd pobl Cymru yn awr yn manteisio ar y cyfle i ymateb i’r ymgynghoriad hwn a’n helpu i symud ymlaen ar ein taith tuag at Gymru ddi-sbwriel.”

Dywedodd Lesley Jones, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:

“Rydym yn falch bod Llywodraeth Cymru yn lansio’r ymgynghoriad pwysig hwn. Mae’r difrod y mae plastigion yn ei achosi yn cael effaith fawr ac rydym yn awyddus i weld ymdrech i ddefnyddio opsiynau amgen amlddefnydd ym mhob rhan o’r gymdeithas.  

Rydym wedi gweld newidiadau mawr yn y ffordd y mae plastig yn cael ei ddefnyddio ac rydym yn cydnabod bod nifer o fusnesau a sefydliadu mawr yng Nghymru yn gwneud gwaith i leihau’r plastig y maent yn ei ddefnyddio ac yn ei gynnwys yn eu cynnyrch. Ffodd bynnag, mae llawer o waith i’w wneud eto.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi cam nesaf y daith barhaus hon yr ydym yn gobeithio fydd yn arwain at gyfres o weithredoedd polisi beiddgar gan y Llywodraeth er mwyn lleihau plastig drwy fynd i wraidd y broblem.”

Mae ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i leihau gwastraff a phlastig diangen yn cael ei amlinellu yn ein strategaeth economi gylchol, Mwy nag Ailgylchu, sy’n ceisio sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2050.

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Mae'r ymgynghoriad ar agor tan 22 Hydref 2020.

Mae’r plastigau untro yn cynnwys:

  • gwellt;
  • troellwyr;
  • bydiau cotwm;
  • ffyn balŵn;
  • platiau a chytleri;
  • cynwysyddion bwyd a diod wedi’u gwneud o bolystyren wedi’i ehangu a;
  • chynnyrch wedi’i wneud o blastig oxo-bioddiraddiadwy