English icon English

Lansio ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ar draws sector llaeth y DU

Consultation to tackle supply chain issues across UK dairy sector launched

  • Llywodraethau y DU yn ymgynghori ar amodau newydd, tecach I gontractau llaeth
  • Ffermwyr a chynhyrchwyr llaeth yn cael eu hannog i ddweud eu dweud ar gynigion

 

Mae ymgynghoriad i fynd i’r afael â phroblemau yn y gadwyn gyflenwi ledled sector llaeth y DU ac i ddarparu amodau tecach newydd i gontractau llaeth wedi eu lansio gan Lywodraethau’r DU.

Mae Llywodraethau Cymru, y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cydweithio i lansio’r ymgynghoriad 12 wythnos sy’n ceisio dod ag unrhyw arferion annheg i ben o fewn y sector.

Bydd ymgynghori gyda ffermwyr a phroseswyr llaeth i edrych ar a ddylid cyflwyno rheoliadau i sicrhau mwy o degwch a thryloywder. Mae hyn yn cynnwys y posibilrwydd o gyflwyno contractau gorfodol o fewn y diwydiant llaeth.

Ar hyn o bryd, mae contractau llaeth yn destun Cod Gwirfoddol sy’n pennu safonau arfer da gofynnol ar gyfer contractau rhwng cynhyrchwyr a phrynwyr.

Roedd y dystiolaeth a gasglwyd yn ystod Galwad am Dystiolaeth Dyfarnwr y Cod Cyflenwi Nwyddau Groser yn 2016 yn tynnu sylw at batrwm o arferion annheg ac aneglur yn y diwydiant llaeth.  

Mae hyn yn awgrymu bod yr anhegwch yn y gadwyn gyflenwi yn golygu bod gan brynwyr llaeth y pŵer i osod a newid prisiau llaeth mewn contract, yn aml heb lawer o rybudd. Mae pwysau y costau gan fanwerthwyr wedi eu trosglwyddo i ffermwyr, sydd mewn contractau maith ac anhyblyg.

Mae’r cynigion a lansiwyd yn yr ymgynghoriad heddiw yn cynnwys opsiwn i gyflwyno dull o brisio gorfodol o fewn pob contract rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth. Mae’r cynigion a lansiwyd heddiw yn cynnwys opsiwn i gyflwyno dull o brisio gorfodol o fewn pob contract rhwng ffermwyr a phroseswyr llaeth. Byddai’n sicrhau bod cytuno ffurfiol ar y pris sy’n cael ei dalu am laeth sydd wedi’i gynhyrchu gan y ffermwr o fewn y contract, a bod cytuno ar drafodaethau’r contract mewn dull clir, teg a thryloyw.

Meddai y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: “Mae’r cynigion yr ydym yn ymgynghori arnynt heddiw yn anelu at sicrhau bod ein ffermwyr llaeth yn cael pris teg am eu cynnyrch safonol, y pris y maent yn ei haeddu, a bod ganddynt amodau tecach ar gyfer eu contractau llaeth. Dwi’n annog y sector, ffermwyr ac unrhyw un sydd â diddordeb i fod yn rhan o hyn ac i ddweud eu dweud.

“Mae’r ymgynghoriad heddiw yn un o’r camau diweddaraf yr ydym yn eu cymryd i gefnogi’r sector yn ystod cyfnod heriol y pandemig hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda’r sector yn ystod y cyfnod digynsail hwn, fel y gallwn, gyda’n gilydd, sicrhau dyfodol cadarn i’n diwydiant llaeth yng Nghymru.”

Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 15 Medi.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn cyfres o gyhoeddiadau sydd wedi anelu at gefnogi’r sector yn ystod y cyfnod heriol hwn, gan gynnwys:

    • Lansio cynllun cymorth llaeth i gefnogi ffermwyr yr effeithiwyd fwyaf arnynt gan yr amodau eithriadol diweddaraf yn y farchnad, oedd ar agor am geisiadau o’r 18 Mehefin;
    • Ymgyrch newydd i gwsmeriaid, o dan arweiniad AHDB, i gynyddu y galw gan gwsmeriaid am laeth 3%;
    • Llacio y cyfreithiau cystadlu dros dro i alluogi mwy o gydweithio, fel y gall y sector, gan gynnwys ffermwyr a phroseswyr llaeth, gydweithio’n agosach i ddatrys y gwahaniaethau rhwng y cyflenwad a’r galw; ac
  • Agor Ymyrraeth Gyhoeddus yr UE a chymorth gyda storio preifat ar gyfer llaeth, menyn a chaws.