English icon English
CG speaking

Her gyfreithiol i Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020

Legal challenge to the UK Internal Market Act 2020

Heddiw, wnaeth y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd diweddaru Aelodau o’r Senedd â’r camau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu’r Senedd rhag yr ymosodiad gan y Ddeddf Marchnad Fewnol y DU 2020 ar ei chymhwysedd.

Hyd yma, mae gohebiaeth cyn camau cyfreithiol wedi’i chyfnewid â Llywodraeth y DU ynglŷn â’r Ddeddf. Bydd yr Aelodau’n cofio y cafodd llythyr cyn camau cyfreithiol ei anfon i Lywodraeth y DU ar 16 Rhagfyr, ychydig cyn i’r Ddeddf gael ei phasio a derbyn y Cydsyniad Brenhinol. Cawsom ymateb i’r llythyr hwnnw ar 8 Ionawr. Ni roddodd yr ymateb hwnnw sylw digonol i unrhyw rai o’n pryderon ynghylch effaith y Ddeddf ar ddatganoli.

Felly, heddiw, rwyf wedi dwyn achos ffurfiol yn y Llys Gweinyddol i geisio caniatâd am adolygiad barnwrol. Rydym yn cydnabod yr anawsterau sy’n wynebu’r Senedd yn sgil yr ansicrwydd y mae’r Ddeddf hon yn ei greu o ran gallu’r Senedd i ddeddfu. Rwyf felly wedi gofyn i’r achos ddilyn y broses gyflym ond mater i’r Llys yw hynny yn llwyr. Rwyf wedi cynnig amserlen i’r Llys a fyddai’n golygu bod yr achos hwn yn cael ei glywed yn ystod wythnos olaf mis Mawrth 2021.

Atodaf fanylion Sail yr Hawliad. Mae’r sail hon yn cadarnhau’r ddwy elfen o’n her; sef bod y Ddeddf yn diddymu, mewn modd annerbyniol ac ymhlyg, rannau o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, gan leihau cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, a bod y Ddeddf yn rhoi pŵer i Lywodraeth y DU, drwy gyfrwng pwerau Harri VIII eang, y gallai Gweinidogion y DU ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru yn sylweddol mewn ffordd sy’n cwtogi’r setliad datganoli.

Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am hynt yr achos hwn.

closely updated on the progress of this action.