English icon English

Llacio cyfyngiadau ymweliadau â chartrefi gofal wrth i gynllun adferiad gofal cymdeithasol gael ei lansio

Care home visit restrictions eased as social care recovery plan launched

Cyhoeddodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, bod ymweliadau gan deulu a ffrindiau â phreswylwyr cartrefi gofal yn bwysicach nawr nag erioed, wrth iddi siarad â phreswylwyr cartref gofal Tŷ Enfys yng Nghaerdydd.

Wrth i Gymru symud i lefel rhybudd un, mae Llywodraeth Cymru wedi diweddaru’r canllawiau ar ymweliadau â chartrefi gofal, gyda’r cyfyngiadau’n cael eu llacio o ddydd Llun [19 Gorffennaf] ymlaen. Er bod rhai mesurau megis profi ymwelwyr ar gyfer ymweliadau dan do, a chynnal asesiadau risg ar gyfer ymweliadau yn parhau yn eu lle, mae cyfyngiadau eraill wedi cael eu llacio ymhellach. Nid oes bellach angen i breswylwyr ynysu pan fydd yn dychwelyd ar ôl aros dros nos yn rhywle arall, a chaniateir diddanwyr mewn ardaloedd dan do mewn cartref er mwyn galluogi preswylwyr i ailgydio yn y gweithgareddau maent yn eu mwynhau. Er bod y canllawiau yn cynghori y dylid bod yn ofalus wrth gael cyswllt corfforol agos megis cofleidio, maent bellach yn rhoi cyngor pellach ar sut y gellid rheoli’r risgiau hyn.

Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Rwy’n llawn sylweddoli pa mor anodd mae’r pandemig wedi bod i bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, eu hanwyliaid ac yn wir, i’r staff. Mae’r effaith y mae’r coronafeirws wedi’i chael ar y sector yn fwy nag unrhyw beth o’r blaen, ac mae pobl sydd angen gofal a chymorth, gofalwyr di-dâl a’r gweithlu gofal cymdeithasol i gyd wedi cael eu effeithio.

“Wrth inni symud tuag at adfer, mae’n hanfodol ein bod yn sicrhau bod preswylwyr cartrefi gofal yn cael yr un cyfleoedd â gweddill y boblogaeth i weld eu hanwyliaid eto mewn ffordd ystyrlon yn eu cartrefi, a thu allan. Bydd y canllawiau diweddaraf yn llacio cyfyngiadau ymhellach ac yn cefnogi darparwyr cartrefi gofal i symud at lefel mwy normal o ymweld.”

 

Ar ein hymweliad â Tŷ Enfys, lansiodd Julie Morgan Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol. Mae’r Fframwaith yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda ffocws clir ar flaenoriaethau adfer brys y mae angen mynd i’r afael â nhw ar unwaith.

Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys:

  • Canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol
  • Cefnogi pobl â COVID Hir, gan gynnwys y galw cynyddol am ddarpariaeth gofal cymdeithasol
  • Parhau i sicrhau bod y risg y bydd COVID-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau'n cael eu cynnal yn ddiogel
  • Mynd i'r afael â'r effaith andwyol y mae COVID-19 yn ei chael ar ofalwyr di-dâl
  • Gwella telerau ac amodau'r gweithlu gofal cymdeithasol a sicrhau y rhoddir pwyslais parhaus ar gefnogi llesiant ac iechyd meddwl

Dywedodd Ms Morgan:

“Mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi’r sector gofal cymdeithasol i symud ymlaen. Mae’r Fframwaith ar gyfer Adferiad Gofal Cymdeithasol yn nodi ein blaenoriaethau brys a thymor byr ar gyfer ader. Mae adferiad gofal cymdeithasol yn gyfle i wneud gwelliannau sylweddol a chynaliadwy ar draws y sector. Mae’n hollbwysig ein bod yn defnyddio'r cyfnod adfer hwn i osod y sylfeini cywir ar gyfer dyfodol cryf a chadarnhaol i ofal cymdeithasol yng Nghymru, fel y mae’r Rhaglen Lywodraethu yn amlinellu, gan sicrhau bod y risg bod COVID-19 yn cyrraedd cartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau’n cael eu cynnal yn ddiogel.”