English icon English
WG positive 40mm-3

Llacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol am gyfnod estynedig.

Relaxation of Discretionary Assistance Fund rules extended.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i lacio rheolau’r Gronfa Cymorth Dewisol tan 31 Mawrth 2021.

Bydd y Gronfa Cymorth Dewisol yn parhau i helpu teuluoedd ac unigolion gyda’r pwysau a’r heriau ariannol sy’n eu hwynebu. Cyflwynwyd newidiadau i’r gronfa yn gynharach eleni mewn ymateb i effaith coronafeirws ar aelwydydd sy’n wynebu caledi.

Bydd yr estyniad tan 31 Mawrth 2021 yn golygu y gall y rheini sy’n wynebu caledi o ganlyniad i’r pandemig barhau i wneud pum hawliad yn hytrach na thri mewn cyfnod o 12 mis, ac y bydd y terfyn hawlio 28 diwrnod yn parhau.

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn rhoi arian grant i gefnogi pobl sy’n wynebu caledi eithriadol ac mae’r galw ar y gronfa yn parhau i fod yr uchaf erioed. Ers dechrau’r pandemig, defnyddiwyd dros £2.4 miliwn i gefnogi’r bobl a nododd coronafeirws fel eu rheswm dros hawlio.

Gan gyhoeddi y bydd y newidiadau’n parhau, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol Hannah Blythyn:

“Mae’r coronafeirws yn dal i gael effaith enfawr ar sefyllfa ariannol unigolion a theuluoedd ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd effaith economaidd lawn y feirws hwn.

Mae llawer o’r bobl y mae eu hamgylchiadau wedi’u heffeithio’n niweidiol gan y coronafeirws ymysg y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn barod, a chan na welwyd sefyllfa debyg i’r pandemig hwn o’r blaen, y peth cywir inni ei wneud yw parhau i gefnogi pobl.

Wrth i seibiannau i daliadau credyd a Chynllun Ffyrlo Llywodraeth y DU ddod i ben, mae’n bosibl y bydd hyn yn effeithio ymhellach ar bobl, gan greu caledi ariannol iddynt. Drwy lacio’r rheolau tan ddiwedd y flwyddyn ariannol, gallwn sicrhau y bydd pawb sydd angen cymorth yn gallu cael gafael arno.”

DIWEDD