Lleoliadau gweithio o bell wedi’u cadarnhau ar draws Cymru
Remote working locations confirmed across Wales
Bydd lleoliadau gweithio o bell ar gael ar draws Cymru a fydd yn rhoi dewis arall i bobl yn lle gweithio gartref neu weithio mewn amgylchedd swyddfa traddodiadol.
Mae Llywodraeth Cymru yn annog mwy o bobl i weithio o bell ac mae wedi nodi uchelgais hirdymor i weld 30% o weithlu Cymru yn gweithio mewn lleoliadau eraill yn lle swyddfa draddodiadol. Mae’n gobeithio cyflawni’r uchelgais hon drwy roi mwy o opsiynau a dewis i bobl o ran eu gweithle.
Bwriad yr uchelgais hwn yw helpu canol trefi, lleihau tagfeydd a lleihau allyriadau carbon.
Yn Hwlffordd mae gofod cydweithio newydd HaverHub yn cynnig lle i weithio yn y gymuned, tra bo hyb diweddaraf TownSq, Costigan, yng Nghanol Tref y Rhyl wedi cael ei adnewyddu a bydd ganddo ddesgiau i bobl leol weithio o bell – mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych.
Yn ardal Cwm Tawe, mae Indycube yn rhoi cynnig ar droi swyddfeydd a chanolfannau cymunedol segur yn lleoliadau gweithio cymunedol.
Mae’r tri phrosiect yn gwahodd gweithwyr a busnesau i roi gwybod os hoffent geisio gweithio’n lleol yn agos i le maent yn byw a rhentu swyddfa er mwyn darparu mwy o ddewis i’w gweithwyr. Lle bo'n berthnasol, mae'r desgiau am ddim ar gyfer cyfnod y cynlluniau peilot 12 mis a fydd ar agor pan fydd cyfyngiadau Covid yn caniatáu hynny.
Ym Mhontypridd, bydd pencadlys newydd Trafnidiaeth Cymru yn treialu cydweithio agosach rhwng y sector cyhoeddus, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu lle penodol i weithwyr lleol yn y sector cyhoeddus.
Yn ogystal, mae chwe safle gweithio hyblyg yn ardal Tasglu'r Cymoedd yn cael eu cefnogi drwy £500,000 o gyllid Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys rhoi cyfle i bobl weithio'n agos i fannau prydferth lleol a safleoedd treftadaeth, gyda llefydd yn y Porth Darganfod yn Llyn Llech Owain yn Sir Gaerfyrddin ac un arall ym Mharc Bryn Bach ym Mlaenau Gwent.
Bydd mwy o leoliadau'n cael eu cadarnhau yn ystod y misoedd nesaf ac mae pobl yn dal i gael eu gwahodd i awgrymu lleoliadau drwy ymarfer ymgysylltu a gynhelir gan Commonplace.
Dywedodd Lee Waters, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:
“Un o’r gwersi rydyn ni wedi’i ddysgu o’r pandemig yw nad yw pobl am weithio mewn amgylchedd swyddfa traddodiadol neu nad oes angen iddynt weithio mewn amgylchedd o’r fath.
“Gall gweithio o bell helpu pobl drwy ddileu’r angen i gymudo a datblygu gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith. I fusnesau mae cyfle gwirioneddol i gynnal a chynyddu cynhyrchiant gan wneud eu staff yn hapusach ar yr un pryd.
“Nid ydym yn ymdrin â hyn drwy chwilio am ateb sy'n addas i bawb. Bydd y lleoliadau'n helpu i ddatblygu tystiolaeth ar draws ystod o wahanol amgylchiadau a byddant yn helpu i lywio ein syniadau wrth i'r polisi ddatblygu.
“Rwy’n annog busnesau i achub ar y cyfle hwn ac i fod yn rhan o ddyfodol gweithle Cymru.”
Dywedodd Tom Wye, Cyfarwyddwr Workspace yn Haverhub:
“Mae HaverHub yn falch iawn o fod yn rhan o'r peilot, gan roi'r cyfle i weithio o bell o brydferthwch Sir Benfro. Bydd adeilad newydd Swyddfa'r Post yn chwarae rhan ganolog wrth greu canolfan i'r gymuned fusnes yn y sir ac mae'r cynllun peilot hwn yn caniatáu inni ymestyn y gymuned honno i fusnesau mwy ledled Cymru.”
Dywedodd Uwch Reolwr Cymunedol TownSq, Carl Turner:
"Mae llawer ohonom wedi bod yn gweithio gartref am y rhan fwyaf o'r flwyddyn ddiwethaf. Er bod rhai pethau cadarnhaol go iawn, fel deffro'n hwyrach, dim cymudo a threulio mwy o amser gyda'r teulu, gall hefyd fod yn anodd byw a gweithio yn yr un lle bob dydd drwy’r dydd”.
“Mae lleoedd fel Costigan yn hawdd cael gafael arnynt ac yn darparu'r holl gymorth a chyfleusterau sydd eu hangen ar bobl i fwrw ymlaen, naill ai drwy dyfu eu busnes eu hunain, neu fachu rhywfaint o le i gyflawni eu gwaith.
Dywedodd Mike Scott – Indycube 2021:
"Mae Indycube wedi cefnogi gweithwyr llawrydd a gweithwyr o bell ers dros ddegawd. Mae ein mannau cydweithio lleol yn helpu gweithwyr o bell rhag teimlo’n ynysig gartref, gan gynnig mynediad hawdd iddynt at fannau a rennir, lleihau'r angen i deithio a rhoi cyfle i bobl weithio gyda'i gilydd. Ein cenhadaeth yw ei gwneud yn haws i bobl ddechrau a chynnal lleoliadau cydweithio lle maent yn byw, a helpu mannau sy'n bodoli eisoes fel canolfannau cymunedol i gynnig gwasanaethau newydd i'r niferoedd cynyddol o weithwyr cartref”.
Dywedodd Lisa Yates, Cyfarwyddwr Pobl a Datblygu Sefydliadol Trafnidiaeth Cymru: "Rydym yn edrych ymlaen at groesawu gweithwyr lleol yn y sector cyhoeddus i ddefnyddio ein pencadlys newydd yn Llys Cadwyn ym Mhontypridd.
"Gall canolfannau anghysbell leihau traffig ffyrdd a thagfeydd ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mae'n annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio llesol i gyrraedd eu man gwaith.
"Bydd hefyd yn gwella cydbwysedd bywyd-gwaith pobl ac yn helpu i gefnogi busnesau lleol."