English icon English

LLINELL DROS NOS - Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru)

OVERNIGHT LINE - Homelessness and Social Housing Allocation (Wales) Bill

DAN EMBARGO TAN - 00:01 Dydd Llun 19 Mai

Yn ddiweddarach y bore yma, disgwylir i Lywodraeth Cymru gyflwyno deddfwriaeth y mae'n dweud y bydd yn trawsnewid y ffordd rydym yn ymateb i ddigartrefedd.

Bydd Bil Digartrefedd a Dyrannu Tai Cymdeithasol (Cymru) yn

  • Trawsnewid y system ddigartrefedd yng Nghymru fel ei bod yn canolbwyntio ar adnabod ac atal yn gynharach.
  • Targedu camau gweithredu at y rhai sydd fwyaf mewn perygl. Yn benodol, darparu'r cyfle i roi terfyn ar ddigartrefedd ymhlith pobl ifanc sy'n gadael gofal.
  • Canolbwyntio ar ymateb amlasiantaeth i ddigartrefedd, gan ddod â gwasanaethau cyhoeddus Cymru ynghyd i ymateb i achosion a chanlyniadau amrywiol digartrefedd.