Llunio cynlluniau ar gyfer cwmni ynni glân newydd, sy’n eiddo i Gymru, er budd Cymru
Shape plans for a new clean energy company, owned by Wales, to benefit Wales
- Mae cynigion ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus newydd yn anelu at gadw manteision ein ffynonellau ynni toreithiog yng Nghymru.
- Gallai helpu i ostwng costau ynni dros y tymor hwy.
- Dywedodd y Gweinidog Ynni: “Ynni rhatach a glanach — o Gymru, i Gymru.”
Mae pobl ledled Cymru yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud ar gynigion ar gyfer cwmni ynni cyhoeddus newydd sy’n eiddo i bobl Cymru.
Mae ymgynghoriad a lansiwyd heddiw yn amlinellu cynigion ar gyfer un cwmni ynni cyhoeddus cenedlaethol. Byddai’r cwmni’n dod â sefydliadau ynni presennol ynghyd ac yn helpu i sicrhau bod mwy o’r manteision economaidd o adnoddau ynni Cymru yn llifo i bobl, cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Mae gan Gymru rai o’r adnoddau ynni adnewyddadwy gorau yn Ewrop. Byddai’r cwmni arfaethedig yn anelu at gynyddu perchnogaeth Gymreig o brosiectau ynni a helpu cymunedau, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus i wneud gwell defnydd o ynni a gynhyrchir yng Nghymru.
Ni fyddai’r cwmni yn disodli cyflenwyr ynni presennol nac yn gosod prisiau ynni cartrefi yn uniongyrchol. Fodd bynnag, gallai cynyddu perchnogaeth Gymreig o brosiectau ynni helpu i leihau costau ynni dros amser a sicrhau bod mwy o arian yn cael ei ailfuddsoddi yng nghymunedau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni, Adam Price:
“Mae gan Gymru botensial enfawr i gynhyrchu ynni glân o’n hadnoddau naturiol.
“Rydym am sicrhau bod manteision yr ynni hwnnw’n cael eu teimlo gan bobl a chymunedau ledled Cymru, mewn swyddi a thwf, ond yn y pen draw mewn biliau is hefyd.
“Mae Cymru ar drothwy ail chwyldro ynni a’r tro hwn rydym am sicrhau ein bod yn cadw mwy o’r manteision yma.“
“Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â sut y gallwn adeiladu sector ynni cryfach yng Nghymru, cefnogi perchnogaeth leol a chreu gwerth parhaol ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Mae’n ymwneud ag ynni rhatach a glanach — o Gymru, i Gymru
“Rydym am glywed gan bobl, cymunedau, busnesau a sefydliadau ledled Cymru ynghylch sut y dylai’r cwmni hwn weithio a beth y dylai ei gyflawni.”
Er bod y cynigion a nodir yn yr ymgynghoriad hwn yn anelu at dorri biliau ynni yn y dyfodol, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio pob dull sydd ar gael iddi i helpu aelwydydd i ymdopi â’u biliau ynni. Eleni rydym yn buddsoddi mwy na £37m yn ein cynllun Nyth i helpu teuluoedd incwm isel i ddianc rhag amodau oer a llaith, ac yn parhau i fuddsoddi mewn cymorth uniongyrchol drwy dalebau tanwydd a chymorth gwresogi.
Mae’r gwasanaeth Hawliwch Eich Hawliau yn helpu pobl i wirio a ydynt yn gymwys i gael incwm ychwanegol ac yn eu tywys drwy’r broses hawlio. I gael cyngor cyfrinachol am ddim, ffoniwch 0800 702 2020.
Mae llinell gyngor Nyth ar agor i bawb, gan gynnig awgrymiadau ar gamau y gall pobl eu cymryd eu hunain i leihau costau ynni, yn ogystal ag asesu cymhwystra ar gyfer mesurau effeithlonrwydd ynni am ddim. Ffoniwch am ddim ar 0808 808 2244.
Mae’r ymgynghoriad ar agor tan 30 Tachwedd 2026.
Gall pobl gymryd rhan ar-lein yn:
https://www.llyw.cymru/creu-cwmni-ynni-cyhoeddus-cyfunol-i-gymru