English icon English

Llwyddiant i fusnesau Cymru yn Sioe Awyr Paris

Paris Air Show success for Welsh business

Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi y bu Sioe Awyr Paris 2019 yn llwyddiant ysgubol a llwyddodd un cwmni, Tritech Group, i sicrhau gwerth dros £5 miliwn o gytundebau newydd yn ystod taith fasnach Llywodraeth Cymru.

Roedd chwe chwmni o Gymru ar stondin Llywodraeth Cymru yn Sioe Awyr Paris a gynhaliwyd rhwng 17 a 21 Mehefin 2019:

  • Compact Orbital Gears (Rhaeadr Gwy)
  • Denis Ferranti Group (Bangor)
  • Faun Trackway (Llangefni)
  • Tritech Group (Wrecsam)
  • Qioptiq (Llanelwy)
  • Winslow Adaptics (Aberhonddu)

Gwnaeth y busnesau hefyd gymryd rhan mewn sgyrsiau a allai arwain at archebion posibl gwerth cyfanswm o £17 miliwn dros y blynyddoedd nesaf.

Mae hyn yn tystio i amlygrwydd y diwydiant awyrofod yng Nghymru a phwysigrwydd meithrin cysylltiadau masnach at y dyfodol.

Mae Sioe Awyr Paris yn ddigwyddiad allweddol yng nghalendr y diwydiant awyrofod ac mae'n creu cyfle i Gymru dynnu sylw at ei gallu a'i safleoedd strategol ar lwyfan rhyngwladol.

Yn 2019 gwnaeth y Sioe groesawu mwy nag erioed o arddangoswyr a llwyddodd i ddenu 316,000 o ymwelwyr yn ystod yr wythnos.

Mae'r sector awyrofod yn sector hollbwysig i Gymru ac mae 160 o gwmnïau wedi'u lleoli yma sy'n cyflogi tua 23,000 o bobl.

Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:

"Mae'n newyddion gwych fod y Tritech Group a ymunodd â mi yn Sioe Awyr Paris y llynedd wedi llwyddo i sicrhau cytundebau gwerth dros £5 miliwn yn y digwyddiad.

"Dyma lwyddiant y mae gwir ei angen ac mae hefyd yn galonogol clywed y gallai mwy o gytundebau gael eu sicrhau dros y misoedd a'r blynyddoedd nesaf gan y chwe chwmni a fu'n rhan o'r Sioe.

"Mae'r Sioe yn ddigwyddiad pwysig i gwmnïau Cymreig ac mae'n creu llwyfan gwych i ni ddangos holl waith rhagorol busnesau Cymru.

"Mae'r diwydiant awyrofod yn rhan bwysig o economi Cymru ac mae Cymru'n gartref i lawer o brif gwmnïau byd eang y sector.

"Byddwn ni fel Llywodraeth yn parhau i weithio'n ddi-flino er mwyn cynyddu enw da Cymru fel gwlad ddelfrydol i fuddsoddi ynddi ac i wneud busnes ynddi."

Dywedodd Eluned Morgan AC, y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol:

"Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar Strategaeth Ryngwladol sy'n disgrifio sut rydym yn hyrwyddo Cymru o amgylch y byd, a sut rydym yn bwriadu atgyfnerthu ein cysylltiadau presennol a chreu rhai newydd gyda phartneriaid rhyngwladol.

"Mae'r newyddion ynghylch y Tritech Group yn enghraifft berffaith o'r modd y mae cwmnïau o Gymru'n anelu at werthu'r hyn y gall Cymru ei gynnig ar draws y byd."

Dywedodd Kimberley Coldwell, Rheolwr Datblygu Busnes a Marchnata Tritech Group Ltd yn Wrecsam:

“Mae cymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer Teithiau Masnach yn hollbwysig i'r Tritech Group wrth i ni barhau i ehangu ein busnes a'i wneud yn fusnes byd eang mewn sector sy'n prysur ehangu a datblygu.

"Roedd Sioe Awyr Paris 2019 yn ddigwyddiad llwyddiannus iawn i ni ac mae wedi arwain at gyfleoedd busnes newydd gwerth dros £5 miliwn. Mae hyn yn tystio i bŵer a gwerth mynychu sioeau ac arddangos ar lwyfannau pwrpasol.

"Bydd ein gweithlu cadarn o 565 o bobl yn croesawu'r ffaith bod y Tritech Group yn datblygu ac maent yn sicr yn eithriadol o'r ffaith eu bod yn cyfrannu at safonau rhagorol gweithgynhyrchu yng Nghymru.

"Hoffem ddiolch yn ddiffuant i Lywodraeth Cymru am barhau i gefnogi datblygiad ein sefydliad ac yn sicr mae'r Llywodraeth wedi cyfrannu at lawer o'n llwyddiant."