English icon English

Llyfrgelloedd i gyflwyno gwasanaeth Clicio a Chasglu.

Libraries to introduce Click and Collect service.

Mae llawer o awdurdodau lleol Cymru bellach yn dechrau ar y cam cyntaf o ailgychwyn gwasanaethau llyfrgell – gyda gwasanaeth Clicio a Chasglu.

Mae gwasanaethau llyfrgell awdurdodau lleol wedi parhau i gynnig adnoddau drwy gydol yr argyfwng, megis e-lyfrau ac e-gylchgronnau drwy’r Llyfrgell Ddigidol[1]. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £250,000 tuag at adnoddau llyfrgell sydd wedi galluogi llyfrgelloedd cyhoeddus i ddarparu adnoddau ychwanegol yn ystod yr argyfwng. Mae hyn wedi arwain at lyfrgelloedd yn gweld nifer yr unigolion sy’n manteisio ar adnoddau digidol yn cynyddu’n sydyn.

Gan fod llyfrgelloedd wedi cau o ganlyniad i’r cyfyngiadau, mae ystadegau a ddarparwyd gan Bolinda, un o brif ddarparwyr e-adnoddau, yn dangos cynnydd o 110% yng nghyfanswm y benthyciadau o'i gymharu â'r un cyfnod yn 2019.

Mae llyfrgelloedd hefyd wedi cael cyllid ychwanegol gan Gronfa Cadernid Diwylliannol gwerth £1 miliwn Llywodraeth Cymru i helpu i addasu cyfleusterau i ddarparu gwasanaeth clicio a chasglu.

Bydd Cyngor Caerdydd ymhlith y cyntaf i ddarparu gwasanaeth Clicio a Chasglu. Dywedodd Nicola Pitman, Cadeirydd Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Ar ôl gweld bod llawer yn manteisio ar ein hadnoddau digidol gwell, rydym yn falch bod defnyddwyr llyfrgelloedd ledled Cymru yn gallu benthyg llyfrau unwaith eto drwy glicio a chasglu. Er mwyn rheoli niferoedd a chadw pawb yn ddiogel, bydd hyn yn cael ei wneud ar sail apwyntiadau, a gall cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd gysylltu â'u gwasanaeth llyfrgell lleol am fanylion ".

Cyhoeddodd Prif Weinidog Cymru ar 8 Mai y gallai awdurdodau lleol ddechrau’r broses o gynllunio sut i ail-agor llyfrgelloedd yn ddiogel. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas: “Mae ein llyfrgelloedd wedi bod yn darparu gwasanaethau digidol gwerthfawr drwy gydol yr argyfwng ac rwy’n falch ein bod yn gallu edrych bellach ar ymestyn y cynnig fesul cam, gan sicrhau bod diogelwch y staff a’r cyhoedd yn cael blaenoriaeth.”

Yn ystod yr ychydig wythnosau nesaf, bydd gwasanaethau Clicio a Chasglu yn cael eu darparu gan wasanaethau llyfrgell ar draws Cymru. Gwiriwch gyda’ch Awdurdod Lleol ynghylch pa wasanaethau sydd ar gael yn eich ardal.

 

Nodiadau i olygyddion

Notes to Editors

[1] https://llyfrgelloedd.cymru/