English icon English

Llythyr Agored i bobl hŷn gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Julie Morgan

Open letter to older people from Deputy Minister for Health and Social Services Julie Morgan

Annwyl Bawb

Yn ystod yr wythnosau diwethaf mae ein bywydau wedi newid yn llwyr. Mae pob un ohonom wedi gorfod gwneud newidiadau ac arfer gyda ffyrdd gwahanol o wneud pethau.

Mae’r boblogaeth hŷn yng Nghymru yn gwneud cyfraniad enfawr i’n cymunedau a’n heconomi, boed drwy warchod eu hwyrion a’u hwyresau, helpu eu teuluoedd, gwirfoddoli neu weithio.

Ar yr adeg hon, sydd heb ei chynsail, pan rydym eisiau bod gyda’n teulu, rwy’n gwybod pa mor anodd ydyw i dderbyn nad yw hynny’n bosibl. Ond rwyf hefyd yn gwybod, drwy gadw draw oddi wrth y rhai sy’n agos atom, ein bod yn helpu i ddiogelu ein hunain, eraill a’n GIG.

Rwyf i bellach mewn oed lle mae angen imi gymryd gofal. Mae gweithio gartref, a pheidio gallu mynd allan yn teimlo’n rhyfedd ac mae’n rhaid imi gyfaddef ei fod wedi cymryd amser imi arfer â’r sefyllfa! Ond mae canllawiau’r llywodraeth yn nodi’n glir bod angen imi osgoi dod i gyswllt wyneb yn wyneb â phobl, ar wahân i’r bobl yr wyf yn byw gyda nhw.

Mae hwn yn gyfnod heriol i bob un ohonom, ond yn arbennig felly i bobl sy’n byw ar eu pennau eu hunain. Mae’n naturiol inni fod eisiau cyswllt ag eraill; hebddo, gallwn deimlo’n unig ac yn ynysig. Rydym wedi clywed llawer o sôn yn ddiweddar am yr holl wasanaethau ar-lein sydd ar gael i’n helpu ni. Ond nid oes gan bob un ohonom fynediad i dechnoleg ddigidol fel Whatsapp, Facebook neu Skype, ac efallai nad ydym yn gyfforddus yn eu defnyddio.

I lawer ohonom, defnyddio’r ffôn yw’r ffordd orau o gadw mewn cysylltiad. Er na allwn gwrdd â ffrindiau, teulu, cymdogion neu gydweithwyr, gallwn gadw mewn cysylltiad dros y ffôn. Mae’n dda gallu siarad â rhywun i rannu awgrymiadau ynglŷn â sut i gadw’n brysur yn ystod y dydd, a sut i gadw’n iach, neu hyd yn oed i sgwrsio am beth oedd ar y teledu y noson cynt.

Drwy gadw mewn cysylltiad, gallwn helpu ein gilydd. Mae’n rhaid inni gofio nad oes angen inni fod ofn gofyn am help. Os ydych yn teimlo’n sâl, os ydych angen siopa bwyd, neu os ydych angen casglu presgripsiwn, cofiwch ddweud wrth rhywun. Gall fod yn aelod o’r teulu, yn ffrind neu’n gymydog.

Rwy’n gwybod bod cael gafael ar eich presgripsiwn wedi peri pryder mawr i lawer ohonoch. Os nad ydych yn adnabod rhywun a all ei gasglu i chi, gallwch gysylltu â’ch fferyllfa gymunedol. Maent yno i’ch helpu. Hefyd, mae cynghorau lleol ar draws Cymru wedi bod yn gweithio gyda gwirfoddolwyr i helpu i ddanfon presgripsiynau a siopa.

Mae llinell gymorth Age Cymru ar gael i roi cyngor. Mae’r llinell gymorth ar gael rhwng 10:00am a 4:00pm, ddydd Llun i ddydd Gwener a’r rhif i’w ffonio yw 08000 223 444. Os ydych chi dros 70 oed ac yn byw ar eich pen eich hun, gallwch hefyd gofrestru i dderbyn eu gwasanaeth ‘sgwrs sut hwyl’ a lansiwyd yn ddiweddar, lle bydd aelod staff yn eich ffonio bob dydd i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych, awgrymu gwasanaethau lleol neu sgwrsio gyda chi.

Ni fydd y cyfnod nesaf yn hawdd i unrhyw un ohonom, ond rydym ni yn y llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol, y GIG, gwasanaethau gofal cymdeithasol a sefydliadau lleol i wneud popeth posib i ymateb i COVID-19 a diogelu’r bobl fwyaf agored i niwed yma yng Nghymru.

Byddaf mewn cysylltiad eto yn ystod yr amser anodd hwn, ond am y tro cymerwch ofal a dymuniadau gorau i bob un ohonoch.


Yn gywir





Julie Morgan AC/AM Y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Deputy Minister for Health and Social Services