English icon English

Llythyr agored i’w gyhoeddi – Neges gan Brif Weinidog Cymru

Open letter for publication – Message from the First Minister

 

Mae ein bywydau wedi newid yn ddramatig dros y pythefnos diwethaf oherwydd y pandemig coronafeirws.

Mae pob un ohonom ni wedi gwneud newidiadau i’r ffordd yr ydym ni’n byw ein bywydau.

Mae’n gyfnod na welwyd mo'i debyg o'r blaen ac rydym ni i gyd yn addasu i’r ffordd newydd hon o fyw.

Rydym wedi gorfod gwneud cyfres o benderfyniadau anodd yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig, i arafu lledaeniad y feirws.

Mae ysgolion a busnesau wedi cau ac mae’r rhan fwyaf o bobl yn gweithio gartref. Mae’r strydoedd yn dawel.

Cyflwynwyd y mesurau hyn i’n diogelu ni i gyd ac i ddiogelu ein GIG.

Mae’r neges yn syml: aros gartref, achub bywydau.

Ni ddylem fynd allan oni bai am bethau hanfodol, a hynny mor anaml â phosibl. Does dim angen pentyrru bwyd gan fod digonedd ar gael. Cawn fynd allan unwaith y dydd i ymarfer corff, yn agos at ein cartref ond ni ddylem fentro’n ddiangen.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda’i holl bartneriaid ledled Cymru, gan gynnwys awdurdodau lleol, y GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol, undebau llafur ac eraill, i wneud popeth y gallwn ni i ymateb i’r pandemig.

Hoffwn roi teyrnged i bawb sydd wedi cynnig cynorthwyo yn eu cymuned leol. Rydym wedi cael ymateb aruthrol o ran pobl yn cynnig rhoi help llaw – o ffonio ffrind, i fynd i nôl neges. Ond cofiwch wneud hyn yn ddiogel a’ch diogelu eich hun ac eraill.

Hoffwn hefyd ddiolch i staff y gwasanaeth iechyd a’r maes gofal cymdeithasol sy’n gwneud gwaith rhagorol. Mae pobl sydd wedi ymddeol yn cynnig mynd yn ôl i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i gynorthwyo’r ymdrech yn erbyn coronafeirws.

Mae ymateb rhyfeddol wedi bod ledled Cymru.

Dewch inni i gyd felly gyd-dynnu a chwarae ein rhan, i’n diogelu ein gilydd a’n GIG. Mae gweithredoedd pob un ohonom yn cyfrif.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: llyw.cymru/coronafeirws

Mark Drakeford

Prif Weinidog Cymru