English icon English
action-adult-affection-eldery-339620

Llythyr agored yn diolch i nyrsys ym maes gofal cymdeithasol am eu hymroddiad

Open letter thanks nurses in social care for their dedication

Mae Prif Swyddog Nyrsio Cymru wedi ymuno ag eraill mewn swyddi uwch yn y genedl i ddiolch i nyrsys sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol.

Mae’r Athro Jean White wedi llofnodi’r llythyr agored, sydd hefyd yn annog pobl sydd wedi gadael nyrsio yn ystod y pum mlynedd diwethaf i ailymuno i helpu i ofalu am bobl sy’n dioddef o’r coronafeirws.

Mae’r llythyr yn cael ei gyhoeddi wrth i bobl ym mhob rhan o Gymru ddod ynghyd y tu allan i’w drysau unwaith eto i gymeradwyo’r gofalwyr, gan ddangos eu diolchgarwch i bawb sy’n darparu gwasanaethau hanfodol.

Bydd cestyll, pontydd a henebion cenedlaethol eraill yn cael eu goleuo heno wrth i Gymru ddweud diolch.

Hyd yma, mae bron i 600 o nyrsys wedi dod yn ôl i weithio yn y GIG a gofal cymdeithasol yn dilyn ymgyrch recriwtio genedlaethol i ddenu pobl a oedd eisoes wedi gadael eu gyrfaoedd.

Mae’r llythyr agored wedi’i lofnodi gan yr Athro White ynghyd â Sue Evans, prif weithredwr Gofal Cymdeithasol Cymru, Andrea Sutcliffe, prif weithredwr y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, ac Albert Heaney, Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru.

Mae’n nodi: “Mae sgiliau, cefndir, a phrofiad pawb yn hynod bwysig inni, ond rydym yn ysgrifennu heddiw i gydnabod yn arbennig y gwaith diflino y mae cydweithwyr fel chi yn ei gyflawni yn y sector gofal cymdeithasol.

“Mae gan gydweithwyr yn y maes nyrsio a gofal rôl hanfodol i’w chwarae yn y gwaith o fodloni anghenion gofal cymhleth miloedd o bobl bob dydd. Diolch ichi am barhau i weithio mor galed i gefnogi’r bobl yr ydych yn gofalu amdanynt yn ystod yr argyfwng hwn.

“Rydym yn gwybod bod COVID-19 wedi dod â heriau sylweddol i bobl sy’n gweithio ym maes gofal cymdeithasol, a hoffem eich sicrhau nad yw eich pryderon wedi cael eu hanghofio.

“Byddwn yn parhau i eirioli ar eich rhan mewn perthynas â materion megis cynnal profion a sicrhau bod gennych ddigon o gyflenwadau PPE, ac ynglŷn â phwysigrwydd cefnogi nyrsys yn eu rolau clinigol ac arwain.

“Rydym yn diolch o galon ichi am bopeth yr ydych yn ei wneud. Rydym ninnau, ynghyd â’r miloedd o bobl a theuluoedd yr ydych yn gwneud gwahaniaeth iddynt, yn gweld ac yn gwerthfawrogi eich holl waith anhygoel. Gyda chymorth y rheini sy’n dychwelyd i weithio yn y maes gofal cymdeithasol, gallwn i gyd sicrhau bod pawb yn cael y gofal a’r cymorth y maent yn eu haeddu.”