English icon English
EU citizens hearts WEL-2

Llythyr y Prif Weinidog am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Message from the First Minister: Support for EU settlement scheme in Wales

"Yn dilyn fy llythyr agored blaenorol at ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (a’r Ardal Economaidd Ewropeaidd a’r Swistir) yng Nghymru, hoffwn ailadrodd fy neges o gefnogaeth i’r unigolion hynny sy’n byw yma yng Nghymru ac sydd am barhau i wneud hynny.

"Er bod y dyddiad cau i wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE bellach wedi pasio, mae holl ddinasyddion yr UE a oedd yn byw yng Nghymru cyn 31 Rhagfyr 2020, neu unrhyw aelodau o’u teulu sydd wedi ymuno â nhw ers hynny, yn dal i allu gwneud cais hwyr ar sail resymol. Gall plant dinasyddion yr UE wneud cais hwyr, neu gellir gwneud cais hwyr ar eu rhan, yn ddiderfyn.

"Byddwn i’n annog pawb cymwys i fanteisio ar y cymorth y mae Llywodraeth Cymru yn parhau i’w ddarparu, yn rhad ac am ddim, drwy’r cwmni cyfreithiol sy’n arbenigo mewn mewnfudo, Newfields Law, i wneud cais. Mae cymorth a chyngor hefyd ar gael drwy Cyngor Ar Bopeth Cymru a’r sefydliad trydydd sector Settled. Bydd ein gwefan Paratoi Cymru yn eich cyfeirio at yr holl wybodaeth a chymorth y gallai fod eu hangen arnoch.

"I’r rhai sydd eisoes wedi gwneud cais, rwy’n falch eich bod wedi dewis ymgartrefu yng Nghymru a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i sicrhau bod eich hawliau fel dinasyddion yr UE a dinasyddion Cymru yn cael eu cynnal. Drwy wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, cofiwch y bydd eich hawliau yn cael eu gwarchod tra ydych yn aros am ganlyniad. I’r rhai sydd wedi llwyddo i sicrhau Statws Preswylydd Sefydlog, mae gennych ganiatâd diderfyn i aros yn y DU a byddwch yn parhau i feddu ar y caniatâd hwnnw.

"Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddadlau dros warchod hawliau’r rhai sydd â Statws Preswylydd Cyn-sefydlog ac rydym yn annog y rhai sydd am wneud cais am Statws Preswylydd Sefydlog, ar ôl sicrhau Statws Preswylydd Cyn-sefydlog yn flaenorol, i fanteisio ar becyn cymorth Llywodraeth Cymru i wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn credu y dylai pawb sy’n gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE gael ei drin yn gyfartal ac y dylai ei hawliau gael eu diogelu o dan y cynllun.

"Mae rhagor o wybodaeth am eich hawliau fel dinasyddion yr UE sy’n parhau i fyw yn y DU ar gael ar wefan yr Awdurdod Monitro Annibynnol.

"Fel yr wyf wedi’i ddweud o’r blaen, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod cyfraniad dinasyddion yr UE at ein gwlad. Rydych chi’n gyfeillion, yn berthnasau, yn gydweithwyr ac yn gymheiriaid. Rwyf am ichi deimlo bod croeso ichi yma a gwybod bod Llywodraeth Cymru yma i’ch cynorthwyo i aros, ni waeth beth fo’ch amgylchiadau."