English icon English

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn ymgynghori ar ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi

UK and Welsh Government consults on ending live animal exports for slaughter and fattening

Mae ymgynghoriad wyth wythnos, a lansiwyd heddiw yng Nghymru a Lloegr, yn gofyn am farn ar ddod i ben ag allforion anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi pan fo’r teithiau’n dechrau neu’n croesi’r naill wlad neu’r llall.

Yn aml mae anifeiliaid byw yn gorfod dioddef teithiau hirfaith yn ystod eu hallforio, gan achosi trallod ac anafiadau iddynt. Mae ymadael â’r UE wedi’i gwneud hi’n bosibl i Lywodraeth y DU fynd ar drywydd y cynigion hyn a fyddai’n atal dioddefaint dianghenraid i anifeiliaid wrth eu cludo a’n gweld yn dod y wlad gyntaf yn Ewrop i ddod â’r arfer hwn i ben. 

Rydym hefyd yn ymgynghori ar gynigion i wella lles anifeiliaid ymhellach wrth eu cludo yn fwy cyffredinol, megis:

  • gostwng amseroedd teithio uchafswm;
  • anifeiliaid yn cael mwy o ofod a lle uwch eu pennau wrth eu cludo
  • rheolau llymach ar gludo anifeiliaid mewn gwres neu oerfel eithafol
  • rheolau llymach ar gludo anifeiliaid byw dros y môr.

Mae’r ymgynghoriad yn dilyn galwad cynharach am dystiolaeth gan Lywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ym mis Ebrill 2018, ar reoli allforion byw i’w lladd a gwella lles anifeiliaid wrth eu cludo.

Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:  “Rydym yn ymroddedig i sicrhau’r safonau lles uchaf ar gyfer pob anifail a gedwir yng Nghymru. 

“Credaf mai dull gweithredu ar draws Prydain yw’r ffordd orau ymlaen ar gyfer y dyfodol i sicrhau ein bod yn diogelu ac yn gwella lles anifeiliaid sydd ar hyn o bryd yn mynd ar deithiau hirfaith. 

“Byddwn yn ystyried canlyniadau’r ymgynghoriad hwn i lywio ein cyfeiriad polisi yn y dyfodol yng Nghymru ar y mater datganoledig hwn.

“Rwy’n annog y diwydiant amaeth, partneriaid a phawb sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid i gymryd rhan a rhannu eu safbwyntiau â ni ar y mater pwysig hwn.”

DIWEDD