English icon English

Llywodraeth Cymru i benodi Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan

Welsh Government to appoint all-Wales Rural and Wildlife Crime Coordinator

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:

"Mae troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn fater dw i’n ei gymryd o ddifri’, a dw i am ganmol heddluoedd yng Nghymru am y camau breision y maent wedi'u cymryd i fynd i'r afael â hyn dros y blynyddoedd.

Mae Timau Troseddau Cefn Gwlad ein heddluoedd yn cael eu hystyried yn esiampl wych yn y maes plismona hwn ledled y DU. Maen nhw’n cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Rhwydwaith Gwybodaeth Asiantaethau'r Llywodraeth a Gwasanaeth Erlyn y Goron. 

Gan weithio gyda'n Heddluoedd yng Nghymru, mae gennym bellach gyfle unigryw i adeiladu ar waith da ein Timau Troseddau Cefn Gwlad i sefydlu Cydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan. 

Dw i o’r farn y gallai'r rôl hon arwain at newid mawr i'r ffordd mae gwaith ym maes troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt yn cael ei gydgysylltu. Gallai hefyd olygu bydd y gwaith hwnnw’n fwy effeithiol, a gallai arwain at newid yn yr ymateb amlasiantaethol i droseddau o’r fath. Byddai’r cydgysylltydd hefyd yn cynrychioli Cymru’n strategol ar fentrau ar lefel y DU, yn ogystal ag ar amryfal fforymau'r DU a chyfarfodydd grwpiau cyflawni blaenoriaethau.

Dw i, felly, wedi cytuno i ddarparu cyllid ar gyfer y rôl beilot hon, a fydd yn para 12 mis. Dw i wedi ysgrifennu at Brif Gwnstabliaid y 4 heddlu yng Nghymru ac at y Comisiynwyr Heddlu a Throseddau yn gofyn iddynt am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth i benodi Cydlynydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt ar gyfer Cymru gyfan."