English icon English

Llywodraeth Cymru i ddod â masnachfraint y rheilffyrdd o dan reolaeth gyhoeddus

Welsh Government to take rail franchise under public control

Yn wyneb y cwymp aruthrol a fu yn nifer y teithwyr ar y rheilffyrdd, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu dod â masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau o dan reolaeth gyhoeddus.

Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates y byddai’r cam hwn yn helpu i ddiogelu dyfodol gwasanaethau teithwyr yng Nghymru a’r Gororau, yn diogelu swyddi ac yn cefnogi cynlluniau uchelgeisiol Llywodraeth Cymru ar gyfer y Metro.

Daw’r penderfyniad ar ôl cyfnod anodd pan welwyd gostyngiad sylweddol yn nifer y teithwyr ac yn refeniw’r rheilffyrdd ledled Cymru, hyn oll oherwydd y Covid-19.

Yn sgil y trefniadau newydd, daw gwasanaethau’r rheilffyrdd yn gyfrifoldeb o ddydd i ddydd is-gwmni cyhoeddus newydd o dan Trafnidiaeth Cymru, a fydd yn cynnwys partneriaeth newydd rhwng Trafnidiaeth Cymru, Keolis ac Amey.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a’r Gogledd, Ken Skates

“Mae’r misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod hynod anodd i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a gweddill y DU.  Mae Covid wedi cael effaith aruthrol ar y refeniw gan deithwyr ac mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod camu i’r bwlch gyda chymorth sylweddol i sefydlogi’r rhwydwaith ac i gynnal gwasanaethau.

“Rydym wedi penderfynu trosglwyddo gwasanaethau’r rheilffyrdd o ddydd i ddydd i is-gwmni cyhoeddus newydd o dan Trafnidiaeth Cymru”.

Mae’r penderfyniad yn dilyn cwymp masnachfreintiau rheilffyrdd ledled Lloegr wrth i’r model preifat deimlo straen y pandemig.

“Yng Nghymru, rydym am i’r bartneriaeth rhwng TrC a Keolis Amey barhau wrth i ni weithio gyda’n gilydd i ddiogelu gwasanaethau pobl Cymru, diogelu swyddi a sicrhau prosiectau pwysig y Metro rydym wedi bod yn gweithio mor galed arnyn nhw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf,” meddai Ken Skates.

Dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth:

“Does dim atebion rhwydd i’r heriau y bydd y rheilffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn eu hwynebu yn y blynyddoedd nesaf – mae nifer y teithwyr wedi cwympo ac mae dyddiau anodd o’n blaenau wrth inni ddygymod â heriau Covid.

“Rydym yn dod â gwasanaethau Cymru a’r Gororau i ddwylo cyhoeddus gan ei fod yn ased hollbwysig sy’n hanfodol i ddyfodol ein heconomi a’n cymunedau.

“Rwyf am inni gadw’n huchelgais am system trafnidiaeth gyhoeddus integredig o ansawdd uchel, gyda newid dulliau teithio’n nod canolog dros yr ychydig flynyddoedd nesaf. Rwy’n credu bod ein cyhoeddiad heddiw’n hanfodol i’n helpu i wneud hynny.”