English icon English

Llywodraeth Cymru i fuddsoddi mewn trafnidiaeth mwy cadarn, glanach a gwyrddach

Welsh Government to invest in more resilient, cleaner & greener transport

Mae buddsoddi mewn cerbydau allyriadau isel a chreu system drafnidiaeth mwy cadarn ymysg y mentrau sy’n elwa o dros £74 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru i ddarparu trafnidiaeth gwell, mwy cyfeillgar i’r amgylchedd. 

Bydd y cyllid, sydd wedi’i gyhoeddi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru, yn datblygu ymdrechion Cymru tuag at rwydwaith trafnidiaeth glân a gwyrdd ac yn helpu i fynd i’r afael â heriau yy newid yn yr hinsawdd.  

Mae cyllideb 2020-21 y cyntaf ers datgan argyfwng  hinsawdd yng Nghymru.  Mae’r ymrwymiadau gwariant yn cynnwys: 

  • £29 miliwn i newid i gerbydau allyriadau isel: cyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru o fflyd bws a thacsis/cerbydau hurio preifat allyriadau sero erbyn 2028, a chymorth ar gyfer gwella seilwaith gan gynnwys pwyntiau gwefru.  Bydd yn help i sicrhau bod datgarboneiddio trafnidiaeth ar gael i bawb, nid y rhai hynny sy’n gallu fforddio car trydan yn unig. 
  • £25 miliwn ar gyfer system ffyrdd mwy cadarn: helpu i ddiogelu seilwaith sydd mewn perygl o lifogydd ac effeithiau eraill y newid yn yr hinsawdd.  Bydd yn gwella perfformiad ein rhwydwaith ffyrdd gan arwain at ei wneud yn fwy dibynadwy i bob defnyddiwr.
  • £20 miliwn ar gyfer Metro Gogledd Cymru: parhau I fuddsoddi mewn system drafnidiaeth integredig, fodern ac effeithiol.  Bydd hyn yn cynnwys llwybrau beicio, gwasanaethau bws a thrên. 

Bydd datgarboneiddio trafnidiaeth yn thema allweddol ar gyfer strategaeth drafnidiaeth newydd Llywodraeth Cymru, a gaiff ei chyhoeddi tuag at ddiwedd 2020.

 

Meddai Ken Skates, Gweinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru: 

“Rydym am ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth modern a chysylltiedig sy’n hwyluso newid moddol gwirioneddol, ac yn cyflawni ein hamcanion o wella ansawdd yr aer a lleihau allyriadau carbon.   

“Mae mynd i’r a fael â’r argyfwng hinsawdd yn galw am newid sylweddol yn y ffordd yr ydym yn teithio.  Bydd buddsoddi yn y mentrau hyn yn sicrhau bod Cymru yn mynd yn nes at lunio rhwydwaith trafnidiaeth mwy cadarn, glanach a gwyrddach. 

“Trwy wella ein seilwaith gwyrdd gallwn ei wneud yn haws i bobl deithio mewn dulliau mwy cyfeillgar i’r amgylchedd.  Daw law yn llaw â gwelliannau i wasanaethau fydd yn cynnig cysylltiadau gwell i bobl, cymunedau a busnesau.”