English icon English

Llywodraeth Cymru i ryddhau mwy nag £1bn i fynd i’r afael â phandemig y Coronafeirws

Welsh Government to release more than £1bn to tackle the Coronavirus pandemic

Mae Llywodraeth Cymru wedi ailflaenoriaethu ei chyllideb er mwyn rhyddhau hyd at £1.1bn i gefnogi economi Cymru ac i sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn gallu ymdopi â phandemig y Coronafeirws.  

Yn y cyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau, bydd y Prif Weinidog yn cyhoeddi pecyn cyllido mawr i gefnogi busnesau sy’n delio gydag effaith pandemig y coronafeirws yn ystod ei gynhadledd i’r wasg yn nes ymlaen heddiw [dydd Llun 30 Mawrth 2020].