English icon English

Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddarganfod effaith Covid-19 ar ddefnydd y Gymraeg yn gymunedol

Welsh Government launches survey to determine the impact of Covid-19 on the use of the Welsh language in the community

Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio arolwg cymunedol i wybod beth yw effaith y cyfyngiadau yn sgîl Covid-19 ar wirfoddoli drwy’r Gymraeg, ac o ganlyniad, holl grwpiau cymunedol yng Nghymru sydd yn hyrwyddo ac, neu’n defnyddio'r Gymraeg.

Er mwyn gallu casglu gwybodaeth gan gymaint o grwpiau â phosib rydym am i bob grŵp, sefydliad a mudiad sy’n hyrwyddo’r Gymraeg neu sy’n rhoi cyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ar lawr gwlad, gwblhau ein holiadur ar lein. 

Lluniwyd yr holiadur er mwyn casglu darlun cyfredol o’r cyfleoedd sydd yn bodoli i ddefnyddio’r Gymraeg o fewn ein cymunedau. Gyda help y Mentrau Iaith, dosbarthir yr holiadur drwy e bost i’r grwpiau cymunedol sydd yn gweithredu yn eu hardaloedd, a bydd y Fenter leol yn eu hannog a’u helpu i gwblhau yr holiadur ar lein.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan :

“Mae’r gwirfoddoli sy’n digwydd drwy gyfrwng y Gymraeg ar lawr gwlad wedi bod yn asgwrn cefn i’r iaith Cymraeg ac hefyd yn chwarae rôl hanfodol bwysig o’i hyrwyddo.

“Rydym yn ddiolchgar i’r Mentrau Iaith am eu cefnogaeth a bydd canlyniadau yr holiadur yn rhoi darlun ehangach i Lywodraeth Cymru a’r Mentrau Iaith allu llunio polisïau  er mwyn diogelu cyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ar y lefel gymunedol yn y dyfodol.

 “Hoffwn annog pawb fydd yn derbyn yr holiadur i’w gwblhau gan rannu eu profiadau gyda ni.”

Bydd yr holiadur yn fyw ar lein ar 14 Medi 2020 hyd at 2 Hydref 2020.

Cewch wybod rhagor trwy gysylltu â DataIaithGymraeg@llyw.cymru