English icon English
Riverside Venue artist's impression 1-2

Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £950,000 i ddatblygu Glan yr Afon, y Drenewydd

Welsh Government invests £950,000 to develop Newtown’s Riverside Venue

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £950,000 i ddatblygiad Glan yr Afon yn y Drenewydd, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn.

Bydd y prosiect gwerth £1.5 miliwn – i godi adeilad deulawr eiconig ar safle hen stiwdio Radio Hafren ym mhrif faes parcio’r Drenewydd – yn cael ei ariannu drwy Gronfa Trefi Trawsnewid Llywodraeth Cymru a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Dywedodd Hannah Blythyn:

“Mae Llywodraeth Cymru eisiau trawsnewid trefi ar draws Cymru ac rwy’n hynod o falch bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r datblygiad newydd a chyffrous hwn yn y Drenewydd â buddsoddiad o £950,000. Mae hyn yn brawf o’n hymrwymiad cadarn i fuddsoddi yn y Canolbarth.

"Bydd yr adeilad yn cynnig rhywbeth gwahanol i’r Drenewydd, ac yn darparu lleoliad cynaliadwy lle gall bobl gyfarfod, ymgynnull, ymlacio, mwynhau’r awyrgylch, a chael adloniant. Mae’r lleoliad yn allweddol i gefnogi canol y dref, gan ei fod mewn man cyfleus rhwng y dref ei hun a mannau gwyrdd agored, ac yn eu cysylltu.   

"Bydd y prosiect hwn yn ychwanegu gwerth at y gwaith ehangach sy’n cael ei wneud i adfywio’r dref, ac mae’n wych gweld amrywiaeth mor eang o bartneriaid cyflawni ac arianwyr yn cymryd rhan yn y prosiect.”

Disgwylir i’r gwaith paratoi ar gyfer yr adeilad newydd ddechrau yn gynnar yn yr haf, gyda’r nod o gwblhau’r gwaith mewn blwyddyn.

Mae’r datblygiad yn cael ei gyflawni gan Open Newtown, menter gymunedol sy’n ceisio manteisio i’r eithaf ar botensial mannau gwyrdd a glas y dref, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Powys, Cyngor Tref y Drenewydd a Llanllwchaiarn a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.

Yn ogystal â chreu swyddi yn ystod y cyfnod adeiladu, bydd datblygiad Glan yr Afon yn creu ac yn sicrhau swyddi ychwanegol ac yn cefnogi mentrau newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli drwy ei weithrediadau yn y dyfodol.

Bydd yr adeilad newydd wedi’i leoli rhwng parc chwarae newydd a thrac BMX a llwybr beicio mynydd ar fryn Trehafren, dau brosiect gan Agor Drenewydd sydd wedi derbyn cyllid gan gyngor y dref a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Chwaraeon Cymru.

Bydd datblygiad Glan yr Afon yn agor yr Afon Hafren a’r tir parc o’i amgylch i ymwelwyr a phreswylwyr lleol, gyda mannau i fynd ar ganŵ, llwybrau natur/treftadaeth a chyfleoedd i ysgolion ymweld â’r goedwig/afon.

“Bydd y datblygiad newydd cyffrous hwn yn trawsnewid hen adeilad sy’n dadfeilio i fod yn gyfleuster amlbwrpas modern, cynaliadwy, cwbl hygyrch,” meddai Owen Durbridge, cadeirydd Agor Drenewydd.

“Bydd yr adeilad fel porth i gyrraedd at fannau gwyrdd y Drenewydd ac yn darparu swyddogaethau twristiaeth i’r dref a’r Canolbarth yn ehangach. Bydd yn cynnig gwasanaethau sy’n ategu’r hyn mae’r Drenewydd eisoes yn ei gynnig, cynyddu nifer yr ymwelwyr a galluogi’r dref i ddal mwy o’r gwariant lleol.”

Mae buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn dilyn cais cynllunio a chynllun busnes diwygiedig gan Agor Drenewydd, ar ôl ystyried adborth lleol ac ymatebion i ymgynghoriadau.  

Dywedodd Guy Jones, swyddog cyllido Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:

“Rydyn ni’n hynod o falch bod Agor Drenewydd wedi cael y grant hwn gan Lywodraeth Cymru. 

“Maen nhw wedi ymgynghori’n helaeth gyda’r gymuned, ac wedi newid rhai o’u cynigion cyn cyflwyno cais cynllunio a chynllun busnes diwygiedig. Mae’r cyllid newydd yn golygu bod cyfanswm o tua £1.5m bellach wedi’i sicrhau i gwblhau’r gwaith adeiladu.”

Mae Maer y Drenewydd, y Cynghorydd David Selby yn croesawu’r buddsoddiad mawr yn y dref.

“Bydd datblygiad Glan yr Afon yn fanteisiol i bobl leol ac ymwelwyr â’r dref, gan ei fod wedi’i leoli mewn man delfrydol rhwng y parc chwarae, prif faes parcio’r dref a chyfleusterau canol y dref.

“Bydd y cyngor tref yn chwarae ei ran i fonitro’r datblygiad a’r cyfleusterau wrth i’r prosiect fynd yn ei flaen."

Dywedodd Clerc y Dref, Ed Humphreys:

"Mae’r prosiect hwn yn dangos sut gall gwaith partneriaeth a bod yn ddewr ac yn fentrus ddenu mewnfuddsoddiad na fyddai ar gael o bosib fel arall. 

“Y neges amlwg yw bod y Drenewydd a Llanllwchaiarn yn fannau da i fuddsoddi ynddynt, bod y gymuned yn ceisio gwella’r hyn sydd ganddi i’w gynnig i’w thrigolion a’i hymwelwyr fel ei gilydd, a’i bod yn barod i drio pethau newydd i wneud hynny."

Dywedodd Gary Mitchell, sy’n arwain prosiectau Glan yr Afon a’r parc chwarae ar ran Agor Drenewydd:

“Bydd buddsoddiad ar y lefel hon, ynghyd â’r ffaith bod y datblygiad yn uniongyrchol gysylltiedig ag asedau newydd ac asedau presennol y dref, yn helpu i roi ein tref farchnad fach wledig ar y map yn y Canolbarth – man rwy’n falch iawn o’i alw’n gartref i mi.”

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Powys dros Adfywio, y Cynghorydd James Evans:

“Dyma garreg filltir bwysig yn y gwaith o ailddatblygu ardal allweddol o fewn y Drenewydd. Mae’r buddsoddiad yma’n atgyfnerthu’r neges bod y Drenewydd, sef tref fwyaf y Sir, yn lle gwych ar gyfer trafod busnes a’i fod yn cynnig amgylchedd deniadol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr a fydd yn hwb i’r economi.”