Llywodraeth Cymru yn canmol y gwasanaeth tân yn ystod yr achosion o’r coronafeirws
Welsh Government praise for the fire service during the Coronavirus outbreak
Mae Llywodraeth Cymru wedi canmol Gwasanaethau Tân ac Achub Cymru am eu hymateb i bandemig y coronafeirws yn ogystal â’r lefel uchel o arbenigedd sydd yn y gwasanaeth ar gyfer cynllunio a rheoli argyfyngau.
Mewn llythyr i holl staff y gwasanaethau tân, mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, wedi diolch yn fawr iddynt am eu gwaith caled ac am roi lles pobl eraill yn gyntaf yn ystod y cyfnod hwn na welwyd mo’i debyg o’r blaen.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y llywodraeth yn cefnogi’r gwaith sy’n cael ei wneud i ddiogelu iechyd a diogelwch diffoddwyr tân a sicrhau bod rôl graidd y gwasanaeth yn cael ei chynnal yn ystod yr argyfwng, a’i bod wedi ymrwymo’n llwyr i hyn. Mae gwaith mewn partneriaeth â’r Prif Swyddogion a’r uwch-reolwyr i ddod o hyd i unrhyw broblemau a’u datrys yn parhau.
Fel rhan o’r ymateb i’r coronafeirws, mae gwasanaethau tân wedi anfon unedau diheintio sy’n gallu dal nifer mawr o bobl i Ysbyty Llwynhelyg yn Hwlffordd ac Ysbyty Nevill Hall yn y Fenni i wasanaethu fel canolfannau brysbennu dros dro. Bydd rhai diffoddwyr tân yn dechrau hyfforddi cyn hir i yrru ambiwlansys i helpu’r Gwasanaeth Ambiwlans i ymateb i ragor o alwadau.
Nid hwn yw’r tro cyntaf i’r gwasanaeth tân ymateb i’r her o ddefnyddio eu sgiliau a’u gallu unigryw ac eang i ymateb i’r argyfyngau. Roedd y rôl a chwaraeodd y diffoddwyr tân a staff y canolfannau rheoli tân yn ystod stormydd Ciara a Dennis yn gwbl hanfodol.
Dywedodd Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol:
“Hoffwn ddiolch o galon i bob aelod o Wasanaeth Tân ac Achub Cymru am ei wasanaeth. Mae gan ddiffoddwyr tân set sgiliau a gallu unigryw ac eang ac maen nhw’n gwbl haeddiannol o’r parch mawr sydd iddynt ymhlith aelodau’r cyhoedd.
Mae gan ein gwasanaethau tân ac achub draddodiad hir a balch o ymateb a gweithio’n gyflym, ac yn effeithiol. Yn fwy na dim, maen nhw’n rhoi lles pob un arall yn gyntaf ar adeg argyfwng. Dydyn ni erioed wedi rhoi cymaint o brawf ar y traddodiad hwnnw ag rydyn ni’n ei wneud nawr.
Mae’r achosion o’r coronafeirws yn cynrychioli un o’r heriau mwyaf mae unrhyw un ohonon ni erioed wedi’i wynebu. Rydyn ni’n gwybod y bydd yna bwysau ychwanegol ar y gwasanaeth. Rydw i’n hyderus y bydd y gwasanaeth tân yn dal i wneud gwahaniaeth mawr wrth ymateb i’r pandemig yng Nghymru”.
DIWEDD