Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau drwy ymgyrch newydd
Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgyrch newydd i hyrwyddo'r cymorth pwysig sydd ar gael i fusnesau i'w helpu i ddelio â phwysau parhaus coronafeirws, a chynllunio ar gyfer dyfodol mwy llewyrchus.
Bydd yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn annog cwmnïau ar hyd a lled Cymru i fanteisio ar y cyngor a'r arweiniad sgiliau a chyflogaeth sydd ar gael drwy’r Porth Sgiliau i Fusnes ar-lein.
Mae amrediad o gymorth ar gael, fel cymorth i ddatblygu galluoedd staff a chyngor gyda rhaglenni recriwtio a hyfforddi. Bydd hyn yn helpu busnesau i symud ymlaen drwy bandemig y coronafeirws a ffynnu yn y dyfodol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, fod yr ymgyrch 'Yn Gefn i Chi' yn hanfodol i gefnogi Cenhadaeth Llywodraeth Cymru i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi a lansiwyd yn gynharach yr wythnos hon. Y nod yw cryfhau ac ailadeiladu economi Cymru i sicrhau ei bod yn fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach nag erioed.
Mae Ymrwymiad COVID Llywodraeth Cymru, sydd wedi cael ei ategu gan hwb cyllid gwerth £40 miliwn yn ystod y flwyddyn ariannol hon, yn rhan allweddol o'r cymorth rydym yn ei gynnig i helpu unrhyw un sydd am gael gwaith, yn ceisio ailhyfforddi, neu am ddechrau ei fusnes ei hun.
Wrth siarad am yr ymgyrch, dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates: "Mae'r 12 mis diwethaf wedi rhoi pwysau anhygoel ar ein pobl a'n busnesau. Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu miloedd o fusnesau a swyddi yng Nghymru drwy becyn o gymorth ariannol gwerth mwy na £2 biliwn. Dyma'r pecyn cymorth mwyaf hael sy’n cael ei gynnig unrhyw le yn y DU.
"Rydyn ni’n gadarn yng nghornel busnesau, a bydd yr ymgyrch hon yn hanfodol i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael i'w helpu i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sy’n codi heddiw ac yn y dyfodol.
"Bydd ein Hymrwymiad COVID hefyd yn darparu hyfforddiant am ddim ac â chymhorthdal a fydd yn galluogi cwmnïau i ddatblygu sgiliau'r gweithlu, ac mae cynghorwyr Busnes Cymru wrth law i roi cyngor arbenigol ar hyn i ddiwallu anghenion busnes unigol.
"Wrth inni barhau i ymdopi â’r cyfnod anodd ac ansicr hwn, byddwn ni’n parhau i wneud popeth yn ein gallu i helpu ein busnesau a'n pobl, ond mae'n rhaid inni hefyd feddwl am yr hyn sy'n dod nesaf. Dyna pam rwyf wedi lansio ein Cenhadaeth newydd i Gryfhau ac Ailadeiladu’r Economi, sy'n cynnig optimistiaeth ar gyfer y dyfodol ac a fydd yn helpu ein pobl, ein busnesau a'n cymunedau i lwyddo a ffynnu mewn economi fwy llewyrchus, cyfartal a gwyrddach.
"Drwy gydweithio, gallwn ni wir lwyddo i adfer ac ailadeiladu ein heconomi i sicrhau ei bod yn well ac yn fwy cadarn i bobl ledled Cymru."
I ddysgu mwy am y rhaglenni sydd ar gael, ffoniwch y Porth Sgiliau i Fusnes ar 03000 6 03000 neu ewch i https://businesswales.gov.wales/skillsgateway/cy