Llywodraeth Cymru yn cefnogi ynni llanw gyda buddsoddiad o £2 filiwn
Welsh Government backs tidal power with £2 million investment
Mae Llywodraeth Cymru wedi cwblhau buddsoddiad ecwiti gwerth £2 filiwn yn y cwmni ynni llanw Inyanga Marine Energy Group, gan atgyfnerthu ymrwymiad Cymru i ddatblygu ynni adnewyddadwy.
Bydd y buddsoddiad, a fydd yn cael ei gyhoeddi gan y Prif Weinidog Eluned Morgan yng Nghynhadledd Ynni Morol Cymru yng Nghaerdydd heddiw, yn helpu i brofi tyrbinau llanw gwell mewn amodau môr go iawn ar safle ynni llanw Morlais oddi ar Ynys Môn.
Bydd y buddsoddiad yn ariannu gwelliannau i'r tyrbinau, gan eu galluogi i gynhyrchu hyd at 60% yn fwy o ynni. Bydd y tyrbinau yn pweru'r rhan fwyaf o'r prosiectau ynni llanw sydd wedi'u cynllunio ar gyfer safle Morlais.
Mae Morlais wedi'i leoli mewn ardal sy'n adnabyddus am ei gerhyntau llanw cryf. Mae gan y safle 35 cilomedr sgwâr y potensial i gynhyrchu digon o drydan i bweru dros 180,000 o gartrefi ar ôl ei ddatblygu'n llawn, ac mae'n un o brosiectau ynni llanw mwyaf Ewrop.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud Cymru yn ganolfan fyd-eang o dechnolegau llanw newydd. Mae'r cyhoeddiad heddiw yn cyd-fynd â blaenoriaethau allweddol y Prif Weinidog o adeiladu economi gryfach, wyrddach a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:
"Mae'r buddsoddiad hwn yn gam mawr ymlaen ar gyfer dyfodol ynni glân Cymru. Mae ynni llanw yn cynnig pŵer dibynadwy, glân ac yn creu swyddi o safon mewn cymunedau arfordirol lle mae eu hangen fwyaf.
"Trwy fuddsoddi arloesedd, rydyn ni'n rhoi Cymru ar flaen y gad ym maes technoleg ynni morol. Bydd y tyrbinau gwell yn archwilio gwneud ynni llanw yn fwy ymarferol, gan helpu i gyflymu'r symudiad byd-eang oddi wrth danwydd ffosil.
"Yn dilyn fy ymweliad â chynhadledd ryngwladol Wind Europe yn Copenhagen fis diwethaf, mae buddsoddiad heddiw yn dangos pa mor ddifrifol ydym am ynni adnewyddadwy a'i rôl bwysig wrth ddiwallu ein hanghenion ynni yn y dyfodol."
Dywedodd Richard Parkinson, Prif Swyddog Gweithredol Inyanga Marine Energy Group:
“Mae ein technoleg tyrbinau llanw patent HydroWing ar flaen y gad o ran datblygiadau ym maes ynni adnewyddadwy, gan ddefnyddio potensial llawn llanw cefnfor yn ffynhonnell ynni barhaol a dibynadwy. Mae'r buddsoddiad ecwiti sylweddol hwn o £2 filiwn gan Lywodraeth Cymru yn cwblhau'r broses gyllido ar gyfer cam arddangos ein technoleg uchelgeisiol.
"Cynllun ynni llanw Morlais yw'r prosiect mwyaf o'i fath yn y byd, gan roi Cymru ar y map fel arweinydd byd-eang ym maes ynni adnewyddadwy. Mae gan ynni llanw y potensial i gyflawni 11% o anghenion ynni'r DU ac mae'r cyhoeddiad heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith honno."
Meddai Andy Billcliff, Prif Swyddog Gweithredol Menter Môn Morlais Cyf:
"Rydym yn falch o weld y garreg filltir arwyddocaol hon wrth i HydroWing baratoi i gyflwyno eu prosiect arddangos o fewn parth Morlais. Mae'n gam mawr nid yn unig i'r sector ynni llanw, ond hefyd i Ynys Môn ac economi ehangach Cymru.
"Mae'r datblygiad hwn yn tynnu sylw at botensial ein hadnoddau naturiol i sbarduno arloesedd, creu swyddi o ansawdd uchel a chyfrannu'n ystyrlon at gyflawni uchelgeisiau sero net Cymru. Mae hon yn foment gyffrous i ynni adnewyddadwy yng Nghymru."