English icon English

Llywodraeth Cymru yn croesawu cyngor y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd ar osod targed sero net i Gymru – ond "mae angen i bawb chwarae’u rhan" er mwyn ymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur

Welsh Government welcomes advice of Climate Change Committee to set a net zero target for Wales – but “everyone needs to play their part” to respond to the climate and nature emergency

Heddiw [dydd Iau, 17 Rhagfyr], mae'r Pwyllgor ar Newid Hinsawdd (CCC) wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd ar gyfer Cymru, ynghyd â chyngor ar lwybr allyriadau Cymru hyd at 2050, gan gadarnhau am y tro cyntaf fod gan Gymru lwybr credadwy, dichonadwy a fforddiadwy er mwyn cyrraedd allyriadau sero net erbyn 2050.

Mae'r adroddiad cynnydd a'r cyngor yn cydnabod y camau a gymerwyd yng Nghymru i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr – gan gynnwys cyflawni rhai o'r cyfraddau ailgylchu cenedlaethol uchaf yn y byd; mynd ati i roi cymorth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy ar raddfa fawr, ac integreiddio’i hymateb i'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur yn ei blaenoriaethau ar gyfer ailadeiladu'r economi ar ôl pandemig Covid-19.

Mae'r cyngor newydd yn diweddaru argymhellion blaenorol a wnaed gan y pwyllgor y llynedd i’r perwyl nid oedd Cymru yn debygol gyflawni sero net erbyn 2050.

Derbyniodd Llywodraeth Cymru y cyngor blaenorol hwn ond gan ddatgan ar yr un pryd ei bod yn uchelgais ganddi i ddatblygu llwybr credadwy at sero net ar gyfer Cymru. Mae'r cyngor newydd yn adlewyrchu’r ffaith bod y CCC a rhanddeiliaid yng Nghymru wedi gwneud rhagor o waith dadansoddi a rhagor o waith i ddatblygu tystiolaeth er mwyn cadarnhau bod yr uchelgais hwn yn gredadwy, a bod yn rhaid bellach fynd ati i’w wireddu.

Mae'r CCC hefyd yn cynghori bod angen mwy o weithredu ar y cyd yng Nghymru. Mae hynny’n cynnwys gwella cyfraddau lleihau allyriadau amaethyddol a chynyddu cyfraddau plannu coed, sef materion sy’n gyfrifoldebau datganoledig i Lywodraeth Cymru.

Mae'r CCC hefyd yn tynnu sylw at yr angen am strategaethau cydlynol ledled y DU, a fydd yn cael eu datblygu mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru a’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, pan fo rhai o’r cyfrifoldebau, neu’r cyfan ohonynt, yn nwylo Llywodraeth y DU. 

Mae’r CCC yn cyhoeddi’i gyngor ar ôl adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig sy'n rhagweld y bydd tymheredd yn byd yn codi 3.2°C yn y ganrif hon hyd yn oed pe bai pob gwlad sydd wedi ymrwymo i gytundeb Paris yn gwireddu’r ymrwymiadau a wnaed ganddynt. Mae hyn yn golygu bod pob gostyngiad ychwanegol mewn allyriadau yn hanfodol ac y bydd yn gallu gwneud gwahaniaeth i'r byd y byddwn yn ei adael i  genedlaethau'r dyfodol.

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i'r CCC am ei waith ar yr adroddiadau hyn, sydd nid yn unig yn nodi'r camau rydyn ni wedi'u cymryd yn y gorffennol i anelu at statws sero net yng Nghymru, ond sydd hefyd yn cydnabod nad yw’n sylw wedi cael ei dynnu oddi ar ein hymrwymiadau ar yr hinsawdd er gwaethaf effeithiau gwaethaf pandemig

Covid-19.

"Yn ystod y blynyddoedd diwethaf hyn, rydyn ni wedi cymryd camau sy'n gwthio terfyn ein pwerau datganoledig. Wrth inni weithredu mewn sawl maes, gan amrywio o dai i gydweithrediad rhyngwladol, ac o drafnidiaeth i’n hymwneud â'r cyhoedd, rydyn ni wedi bod yn barod i ddefnyddio’r pŵer sydd gennym i gynnull ac i ddylanwadu er mwyn hyrwyddo camau cadarnhaol sydd y tu hwnt i derfynau’n rôl reoleiddiol, gan weithredu mewn ffordd benderfynol a beiddgar o fewn y setliad datganoli.

"Rydyn ni’n falch bod yr ymrwymiadau a'r cynnydd a wnaed gennym wedi cael cydnabyddiaeth ond eto, rydyn ni a'r CCC hefyd yn cydnabod bod mwy i'w wneud. Er mwyn cyflawni’n nodau a pharhau i ragori ar ddisgwyliadau, rhaid inni ysgogi ymdrech ar y cyd sy'n cynnwys cymunedau a busnesau yn ogystal â llywodraeth ar bob lefel.

 "O ystyried bod tymheredd y byd yn debygol o godi hyd yn oed yn fwy, a bod Cymru’n debygol o weld mwy o dywydd garw a mwy o ddifrod i'r ecosystemau naturiol sy'n sylfaen i'n lles, mae'n bwysig sylweddoli y bydd pob gostyngiad y llwyddwn ni i’w wneud mewn allyriadau yn gwneud gwahaniaeth.

"Byddwn ni’n mynd ati ’nawr i ystyried cyngor y CCC ochr yn ochr â gwybodaeth arall cyn diweddaru ein deddfwriaeth ar yr hinsawdd yn gynnar y flwyddyn nesaf."

DIWEDD