Llywodraeth Cymru yn dwbli cefnogaeth am ddull gweithredu ‘ysgol gyfan’ o ran iechyd meddwl
Welsh Government doubles support for ‘whole school’ approach to mental health
Mae Llywodraeth Cymru wedi dwbli cefnogaeth i awdurdodau lleol a byrddau iechyd lleol ledled Cymru er mwyn amddiffyn, gwella a rhoi cymorth i iechyd meddwl plant a phobl ifanc.
Gwnaed y cyhoeddiad am y cyllid, a fydd yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiectau sy'n ymwneud â dull gweithredu ysgol gyfan Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael ag iechyd meddwl, gan y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, a'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Mae gweithio gyda phartneriaid ym maes addysg, tai a chyflogaeth i warchod iechyd meddwl da yn thema allweddol yn nhrydydd cynllun cyflawni strategaeth iechyd meddwl Llywodraeth Cymru, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl, a gyhoeddwyd heddiw hefyd.
Mae'r cynllun cyflawni yn cydnabod y cynnydd a wnaed i wella mynediad at wasanaethau iechyd meddwl ac mae'n cynnwys amrywiaeth o gamau ataliol gan gynnwys gwella mynediad at fannau gwyrdd, gweithgareddau diwylliannol a hamdden awyr agored i gefnogi iechyd meddwl a lles.
Fel rhan o hyn, mae'r dull gweithredu ysgol gyfan yn ceisio sicrhau bod iechyd a lles meddyliol yn dod yn ganolog i'r ffordd y mae ysgolion yn gweithio, gan arwain at ffyrdd mwy effeithiol o atal ac ymyrryd yn gynnar.
Daw'r cyhoeddiad ychydig dros flwyddyn ers i Lywodraeth Cymru ffurfio Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cyd-Weinidogol i gyflymu'r gwaith ar wella cymorth iechyd meddwl a lles mewn ysgolion.
Sefydlwyd y grŵp yn sgil argymhellion o'r adroddiad Cadernid Meddwl a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn 2018.
Cadarnhaodd y Gweinidogion y byddai awdurdodau lleol yn cael £1.5m a byrddau iechyd lleol yn cael £264,000 i gefnogi prosiectau ledled Cymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams: "Mae iechyd meddwl a lles ein plant a'n pobl ifanc mor bwysig ac rwy'n falch o gael cyhoeddi rhagor o gefnogaeth i'n dull gweithredu ysgol gyfan.
"Mae Cenhadaeth ein Cenedl yn rhoi lles wrth wraidd ein cwricwlwm newydd, gan gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i ddod yn unigolion iach a hyderus, sy'n meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi."
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething:
"Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod gan ein plant fynediad at gymorth iechyd meddwl effeithiol er mwyn iddynt dyfu i fod yn unigolion iach a hyderus. Rwy'n falch o ddweud bod Cymru wedi arwain y ffordd drwy ddarparu gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed, yn ogystal â disgyblion blwyddyn 6 yn yr ysgol gynradd.
"Heddiw rwyf hefyd wedi cyhoeddi cynllun cyflawni diweddaraf ein strategaeth iechyd meddwl, sef Law yn Llaw at Iechyd Meddwl. Mae'r egwyddor o weithio mewn partneriaeth ar draws y Llywodraeth, y sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn sail i'n dull gweithredu, gan gydnabod na all un corff neu sector drawsnewid gwasanaethau a gwella iechyd meddwl a lles ein poblogaeth ar eu pen eu hunain.
Mae'r cynllun uchelgeisiol hwn yn mynd â ni at ddiwedd ein strategaeth 10 mlynedd. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rydym wedi cynyddu ein buddsoddiad mewn iechyd meddwl yn sylweddol. Bydd y dyraniad wedi'i neilltuo ar gyfer iechyd meddwl yn 2020-21 i’r y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn £712m. Mae hyn yn gynnydd o £109m ers 2016-17."