Llywodraeth Cymru yn dyrannu £16m o’r Gronfa Ffyrdd Cydnerth i Awdurdodau Lleol
Welsh Government allocates £16m of Resilient Roads Fund to Local Authorities
Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi heddiw (11 Mehefin) grantiau trafnidiaeth gwerth dros £16 miliwn. Bydd dros £5 miliwn yn cael ei wario ar atgyweirio ffyrdd yn sgil y difrod a achoswyd gan y stormydd ar ddechrau’r flwyddyn.
Gwahoddwyd holl awdurdodau lleol Cymru i gyflwyno cais am gyllid a derbyniwyd 21 o geisiadau oddi wrth 13 o awdurdodau lleol.
Bydd y Gronfa Ffyrdd Cydnerth, sydd werth £16.9 miliwn, yn cyllido 18 o gynlluniau ar draws 13 o awdurdodau lleol. Caiff yr arian ei wario ar gynlluniau a fydd yn lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ac yn addasu iddynt, gan fynd i’r afael ag effaith y tywydd garw ar y rhwydwaith priffyrdd.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:
“Bydd y gronfa hon yn helpu awdurdodau lleol i dalu am waith y mae gwir angen ei wneud. Mae hyn yn cynnwys dros £6 miliwn ar gyfer adeiladu rhan arall o gynllun amddiffyn yr arfordir Hen Golwyn a fydd yn amddiffyn y briffordd a’r llwybr teithio llesol rhag tywydd garw.”
“Rydym yn buddsoddi £2.5 miliwn yng Nghanolbarth a De-orllewin Cymru, gan gynnwys £400,000 ar gyfer datblygu ateb cynaliadwy a hirdymor i’r A487 yn Niwgwl, Sir Benfro. Caiff dros £4.9 miliwn ei wario ar waith i atgyweirio a diogelu at y dyfodol lwybrau trafnidiaeth allweddol ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf gan fod y stormydd yn gynharach eleni wedi effeithio ar gynifer o’r cymunedau lleol.”
“Mae’r grantiau hyn yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol er mwyn cefnogi twf economaidd cynaliadwy a hirdymor ac adfer ar ôl y stormydd, gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a hefyd wella llwybrau a fydd yn annog mwy o bobl yng Nghymru i gerdded a beicio.”
Nodiadau i olygyddion
Caiff rhestr lawn o’r cynlluniau llwyddiannus, a nodir yn nhrefn yr awdurdodau lleol, ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
https://llyw.cymru/gronfa-ffyrdd-cydnerth-grantiau-ddyfarnwyd-yn-2020-i-2021