Llywodraeth Cymru yn ehangu profion coronafeirws mewn cartrefi gofal
Welsh Government extends coronavirus testing in care homes
Bydd yr holl drigolion a staff mewn cartrefi gofal ag achosion o’r coronafeirws yn cael eu profi am y feirws, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru heddiw.
Daw’r cam hwn wrth i’r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf ddangos y dylid ymestyn profion mewn cartrefi gofal i reoli achosion sy’n codi.
Yn achos cartrefi gofal, lle mae nifer o bobl hŷn yn cyd-fyw yn agos, a lle mae gan sawl un ohonynt gyflyrau iechyd sy'n bodoli eisoes, os bydd canlyniadau'r profion yn bositif, byddwn yn tybio – a chymryd camau gweithredu – fel petai pawb yn y cartref wedi cael canlyniad positif.
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cynllun tair rhan ar waith i brofi ac ymateb yn gyflym er mwyn helpu cartrefi gofal i fynd i’r afael â’r coronafeirws – mae hyn yn gymysgedd o brofion a mesurau hylendid ac amgylcheddol.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething:
“Mae dau brif nod gan ein cynllun profi cenedlaethol – lleihau’r niwed sy’n cael ei achosi gan y coronafeirws a helpu pobl a gweithwyr proffesiynol i ailgydio yn eu bywydau arferol o ddydd i ddydd.
“Rydym yn dysgu mwy am y coronafeirws bob dydd – mae'r dystiolaeth yn newid ac yn datblygu drwy'r adeg ac rydym yn ei hadolygu'n rheolaidd.
“Ar hyn o bryd, nid yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod angen profi pobl yn gyffredinol os nad oes ganddynt symptomau.
“Ond mewn cartrefi gofal, lle bydd gan rai bobl symptomau’r coronafeirws, ond nid eraill, mae pwrpas profi pawb, gan gynnwys y rhai heb symptomau – byddwn yn gwneud hyn er mwyn helpu i reoli achosion sy’n codi.”
Mae’r system newydd tri cham o brofi ac ymateb yn gyflym yn cael ei chyflwyno er mwyn helpu i ddiogelu preswylwyr a staff cartrefi gofal.
- Ei gwneud hi'n haws i gynnal prawf – Bydd yr wyth uned profion symudol newydd, a fydd ar gael o'r wythnos yn dechrau ar 3 Mai, ynghyd â phecynnau i gynnal profion yn y cartref, pan fyddant ar gael, wedi'u hanelu at gartrefi gofal er mwyn sicrhau bod profion ar gael yn hawdd iddynt.
- Profion wedi'u targedu at ardaloedd lle ceir y nifer fwyaf o achosion – Byddwn yn targedu profion ac yn defnyddio unedau symudol i brofi holl breswylwyr cartrefi gofal pan fydd achos yn codi (a chartrefi gofal cyfagos o bosibl) ac yn cynnal mwy o brofion yr wythnos ganlynol. Bydd profion hefyd ar gael yn y cartrefi gofal mwyaf (lle ceir mwy na 50 o welyau) sy'n wynebu risg uwch o achosion oherwydd eu maint.
- Cymorth amgylcheddol a chymorth hylendid – byddwn yn cyfuno profion â chymorth amgylcheddol ar gyfer cartrefi gofal pan gaiff ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion eu nodi. Bydd y drefn newydd hefyd yn cynnwys mwy o lanhau a mwy o fesurau rheoli heintiau. Bydd canllawiau wedi'u diweddaru yn cael eu darparu i'r sector er mwyn cefnogi'r mesurau amgylcheddol hyn.