Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021
Welsh Government further extends measures to protect businesses impacted by coronavirus from eviction until end of March 2021
Cyhoeddodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, y bydd manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws bellach yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021.
Fel rhan o gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi’r gymuned fusnes rhag effaith COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 31 Rhagfyr, wedi cael ei estyn tan 31 Mawrth 2021.
Er y dylai busnesau barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd mis Mawrth 2021. Bydd y cam hwn yn helpu i leihau’r baich ar amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys manwerthu a lletygarwch, yn ystod cyfnod sy’n parhau i fod yn heriol iawn.
Ers dechrau’r pandemig mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi’r pecyn mwyaf hael o gymorth at ei gilydd i fusnesau unrhyw le yn y DU, sy’n werth bron i £2 biliwn. Mae hyn yn cynnwys £340 miliwn sydd ar gael drwy gylch diweddaraf y Gronfa Cadernid Economaidd i gefnogi busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gyfyngiadau a ddaeth i rym ar 4 Rhagfyr.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates: “Er gwaethaf ein holl ymdrechion sy’n parhau i leihau lledaeniad y coronafeirws, mae achosion o’r feirws yn parhau i fod yn uchel ac yn destun pryder. Rydym yn cydnabod bod y cyfyngiadau sy’n parhau a’r newidiadau ehangach o ran ymddygiad yn rhoi pwysau sylweddol ar lawer o’n busnesau. Rydym yn gweithio’n galed i gefnogi ein busnesau yn gyflym gyda’r cynnig cymorth mwyaf hael sydd ar gael i fusnesau unrhyw le yn y DU.
“Fel rhan o’r pecyn cymorth hwnnw, rwy’n fach ein bod hefyd yn gallu estyn mesurau i atal fforffedu prydles am beidio â thalu rhent. Bydd hyn yn diogelu llawer o fusnesau rhag cael eu troi allan ac yn helpu i ddiogelu swyddi, diogelu busnesau a gwarchod ein heconomi dros y misoedd allweddol sydd i ddod.
“Byddwn ni’n parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i roi cymorth ychwanegol wrth inni symud tuag at Gymru ffyniannus yn dilyn y pandemig.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Nid yw’n dasg hawdd cefnogi busnesau Cymru gan gadw cydbwysedd â’r angen i ddiogelu’r rhai sydd mwyaf agored i niwed ac atal lledaeniad y feirws. Mae sicrhau bod manwerthwyr, tafarndai, bwytai a busnesau eraill yn cael eu diogelu rhag cael eu troi allan tan ddiwedd mis Mawrth 2021 yn un o’r ffyrdd rydym yn helpu canol ein trefi nid yn unig i oroesi ond i ailgodi’n gryfach wrth iddynt barhau i fasnachu’n ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.
“Mae sicrhau bod gan ein trefi ymdeimlad o le yn bwysicach nag erioed, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid, yn unol â’n hagenda Trawsnewid Trefi, i adeiladu canol trefi ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu."