Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd y flwyddyn
Welsh Government further extends measures to protect businesses impacted by coronavirus from eviction until end of year
Mae Llywodraeth Cymru yn estyn mesurau i ddiogelu busnesau yr effeithiwyd arnynt gan y coronafeirws rhag cael eu troi allan tan ddiwedd 2020, mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, wedi cyhoeddi.
Fel rhan o’r gweithredu i gefnogi busnesau mewn cyfnod o galedi parhaus o ganlyniad i COVID-19, mae’r moratoriwm ar fforffedu prydles am beidio â thalu rhent, a oedd i ddod i ben ar 30 Medi, wedi cael ei estyn tan 31 Rhagfyr 2020.
Dylid parhau i dalu rhent pryd bynnag y bo hynny’n bosibl, ond bydd y mesur diweddaraf yn sicrhau nad oes unrhyw fusnes yn cael ei droi allan o’i safle os yw’n methu talu ei rent rhwng nawr a diwedd 2020.
Bydd hyn hefyd yn lleihau’r baich ar fanwerthwyr yn ystod cyfnod sy’n heriol iawn i’r sector, gan gynnwys diwedd Cynllun Cadw Swyddi Llywodraeth y DU.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates:
“Rydyn ni’n gwybod bod cryn bryder o hyd yn y sector manwerthu yng Nghymru, ac rydyn ni’n estyn y mesurau hyn i gydnabod yr anawsterau dybryd maen nhw a llawer o fusnesau eraill ledled Cymru yn eu hwynebu.
“Bydd hyn yn atal busnesau rhag cael eu troi allan mewn modd afresymol yn y cyfnod hanfodol hwn cyn y Nadolig, gan ddiogelu swyddi a busnesau.
“Fodd bynnag, rydyn ni hefyd yn cydnabod yr angen i ddatblygu ffyrdd cynaliadwy o ddarparu sefydlogrwydd a sicrwydd ar gyfer busnesau yn y tymor hwy er mwyn ysgogi adferiad economaidd.
“Fel rhan o’r gwaith hwn byddwn ni’n parhau i ofyn i Lywodraeth y DU roi’r cymorth sydd ei angen wrth inni gynllunio ar gyfer Cymru ffyniannus yn dilyn y pandemig.”
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn: “Mae sicrhau y gall busnesau Cymru barhau i fod ar agor heb y perygl o gael eu troi allan yn hanfodol er mwyn sicrhau bod ein canol trefi’n gallu parhau i ffynnu yng Nghymru yn dilyn y pandemig. Nid yn unig bydd estyn y mesur i ddiogelu busnesau rhag cael eu troi allan tan ddiwedd y flwyddyn o gymorth i fusnesau, bydd hefyd yn darparu sicrwydd ar gyfer busnesau cyn ac yn ystod cyfnod prysur y Nadolig. .
Mae busnesau wedi trechu heriau newydd ers dechrau’r pandemig. Bwriad y £9 miliwn o gyllid wedi’i ailbwrpasu a gyhoeddais ynghynt eleni oedd ailagor canol trefi mewn modd diogel, a galluogi busnesau i barhau i fasnachu mewn amgylchedd diogel er gwaethaf yr heriau hyn.
“Mae sicrhau bod gan ein trefi ymdeimlad o le yn bwysicach nag erioed, a byddwn ni’n parhau i gydweithio â phartneriaid, yn unol â’n hagenda Trawsnewid Trefi, i adeiladu canol trefi ar gyfer y dyfodol lle gall busnesau ffynnu.”
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi Cod Ymarfer i hyrwyddo arferion da ymhlith landlordiaid a thenantiaid wrth iddynt ymdrin â’r heriau sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.