English icon English
Person using laptop-2

Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid o gymunedau BAME i roi sylw i anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru

Welsh Government works with BAME community partners to address racial inequality in Wales

Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu 25 o grantiau gwerth cyfanswm o £115,580 i grwpiau cymunedol ar draws Cymru er mwyn helpu sicrhau bod lleisiau Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig (BAME) yn cael eu clywed wrth ddatblygu Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru.

Mae effaith anghymesur Covid-19 ar gymunedau BAME yng Nghymru, yn ogystal â’r digwyddiadau a arweiniodd at amlygrwydd y mudiad Black Lives Matter, wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb hiliol a phrofiadau cymunedau BAME mewn ffordd unigryw ac arwyddocaol.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip, Jane Hutt, sy'n arwain y gwaith ar y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol:

"Nawr yw'r amser i weithredu, ac i weithredu'n gyflym. Yma yng Nghymru, rydyn ni’n cymryd camau radical i drawsnewid profiadau dinasyddion BAME. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i wneud newid ystyrlon a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol yng Nghymru."

Drwy weithio gyda sefydliadau'r trydydd sector a grwpiau cymunedol i ddenu ystod mor eang â phosibl o leisiau a safbwyntiau personol, mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y Cynllun yn cael ei lunio ar y cyd â chymunedau BAME.

Mae'r dull gweithredu newydd hwn yn ddatganiad pwysig gan Lywodraeth Cymru o'i gweledigaeth, ei gwerthoedd a'i bwriadau, a'r camau ymarferol y bydd yn eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol.

Aeth Jane Hutt yn ei blaen i ddweud:

"Bydd y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn gosod fframwaith ar gyfer gwella cyfleoedd bywyd a chanlyniadau i ddinasyddion BAME yng Nghymru. Mae gwaith ar y Cynllun eisoes yn mynd rhagddo'n dda, ac rydyn ni bellach yn buddsoddi cyllid mewn grwpiau cymunedol ar lawr gwlad sy'n gweithio i fwydo profiadau byw gwahanol gymunedau i’r drafodaeth.

"Mae'r Grant Ymgysylltu â'r Gymuned yn gam pwysig iawn i ddeall canfyddiadau’r cymunedau, a sicrhau bod y Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol yn mynd i'r afael yn briodol â’r meysydd lle mae angen. Yn bwysicaf oll, bydd yn ein galluogi i wrando ar gymunedau BAME, clywed eu straeon, a defnyddio profiadau personol i adeiladu Cynllun a fydd yn newid diwylliant yng Nghymru."

Sefydlodd Mymuna Soleman y Privilege Café rhithiol ar ddechrau'r cyfnod o gyfyngiadau symud, a dyfarnwyd £5,000 o gyllid iddi gan y Grant Ymgysylltu â'r Gymuned.

Dywedodd Mymuna:

"Bob wythnos, rwy'n cynnal sgwrs Zoom ar thema benodol gan annog y cyfranogwyr i siarad am eu profiadau. Mae’r diddordeb wedi bod yn anhygoel, gyda dros 200 o bobl yn bresennol mewn rhai galwadau.

"Rwy'n credu y gellid defnyddio Covid-19, a'r digwyddiadau a sbardunwyd gan hiliaeth eleni, fel ysgogiad cadarnhaol ar gyfer newid, fel y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud. Drwy ddewis cyd-lunio Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Cymru a rhoi amser i ddysgu am deimladau personol cymunedau BAME, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o'r gwaelod i fyny. Yn hytrach na dim ond dweud "rydyn ni eisiau gwneud pethau'n wahanol", maen nhw’n mynd ati’n ymarferol i wneud pethau'n wahanol o ddifri.

"Mae gwleidyddion yn dechrau cymryd anghydraddoldebau hiliol o ddifri. Rwy’n teimlo fy mod i’n cael fy ngwerthfawrogi, a bod fy marn i, a barn fy nghymdogion, yn cael ei gwerthfawrogi. Mae'r cyllid grant hwn yn gam enfawr i mi, a fydd yn fy ngalluogi i, a'r rhai sy'n mynychu sgyrsiau’r Privilege Café, i gymryd rhan weithredol yn y gwaith o gael gwared ag anghydraddoldebau. Rwy'n edrych ymlaen at gael gwneud hynny."