Vikki Howells Minister for Higher and Further Education Welsh Government-4 cropped

Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddiogelu myfyrwyr sydd â benthyciad

Welsh Government working to protect student loan borrowers

Mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno mewn egwyddor i gynnig Llywodraeth y DU i osod cap o 6% ar gyfraddau llog benthyciadau Cynllun 2 a Cynllun 3 i fyfyrwyr o fis Medi 2026 ymlaen – ar gyfer blwyddyn academaidd 2026/27. 

Mae unrhyw benderfyniad ffurfiol i fwrw ymlaen â hyn yng Nghymru, gan gynnwys y Rheoliadau, yn fater i Lywodraeth nesaf Cymru, ac yn amodol ar gymeradwyaeth y Senedd. 

Dywedodd Vikki Howells, y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch:  
 
"Rwy'n falch o gefnogi'r cap arfaethedig ar gyfraddau llog benthyciadau i fyfyrwyr gan y bydd yn diogelu myfyrwyr Cymru sydd â benthyciad. Bydd angen i Lywodraeth nesaf Cymru wneud penderfyniad terfynol ar gymhwyso'r cap ar gyfraddau llog ar gyfer benthycwyr Cymru, yn dilyn etholiad y Senedd." 

Nodiadau i olygyddion

Notes

  • This proposal is separate from, and does not affect, the Welsh Government’s position on the recent Plan 2 repayment threshold freeze. The First Minister has confirmed in the Senedd that the freeze does not apply to Welsh borrowers.
  • Welsh Ministers have indicated in‑principle agreement to the UK Government’s proposal to cap Plan 2 and Plan 3 student loan interest rates, recognising the potential protection this could offer borrowers in Wales.
  • Only Welsh Ministers can set the interest rate for student loans in Wales.
  • It will be for the next Welsh Government to take final decisions on how to proceed.