English icon English

Llywodraeth Cymru yn gweithredu i gyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith

Welsh Government takes action to accelerate infrastructure planning decisions

Bydd cynigion newydd yn golygu y gellir gwneud penderfyniadau cynllunio seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yn gyflymach

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans yn dweud heddiw fod yn rhaid i welliannau i'r system gynllunio barhau os yw Cymru am gyflawni ei huchelgeisiau datgarboneiddio, ynni adnewyddadwy a swyddi gwyrdd.   

Mae pum penderfyniad ar brosiectau ynni adnewyddadwy newydd mawr wedi cael eu cymeradwyo gan Ysgrifennydd y Cabinet ers iddi gael ei phenodi ym mis Medi, gan gyfrannu dros 280 MW o ynni adnewyddadwy i Gymru - sy'n cyfateb i bweru mwy na 180,000 o gartrefi yng Nghymru.

Wrth siarad â chynrychiolwyr o bob rhan o'r sector ynni adnewyddadwy yng nghynhadledd brysur Dyfodol Ynni Cymru yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru, amlinellodd Ysgrifennydd y Cabinet gynlluniau i: 

  • Ganiatáu i Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PEDW) wneud penderfyniadau ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW, gan leihau'r amser penderfynu o'r dechrau i'r diwedd o 12 wythnos o leiaf. 
  • Gwella capasiti a gwytnwch gwasanaethau cynllunio drwy ddechrau mynd i'r afael â'r prinder cynllunwyr ar lefelau lleol a chenedlaethol  
  • Gwella adnoddau cynllunio'r Llywodraeth i sicrhau y gellir ystyried ceisiadau Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) yn gyflymach 

Yn ogystal â'r pum prosiect ynni adnewyddadwy mawr sydd wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru ers mis Medi, mae Gweinidogion wedi derbyn adroddiadau arolygwyr ar gyfer pum cais arall sy'n cael eu hystyried yn weithredol a 15 cais arall sydd ar wahanol gamau o safbwynt eu derbyn a'u harchwilio.  

Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn dweud: 

"Mae cynllunio yn gwneud cyfraniad mawr at dwf gwyrdd, ac mae cyflymu penderfyniadau cynllunio seilwaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Mae angen i ni ei wneud y broses mor effeithlon â phosibl i bawb dan sylw.   

"Rydyn ni eisoes wedi penderfynu ar 10 cais DNS yn 2024 o'i gymharu â lefel uchaf blaenorol y llynedd, sef 7, ac mae'r nifer hwn yn debygol o barhau i godi.   

"Bydd y mesurau pellach rwy'n eu cyhoeddi heddiw yn golygu y bydd penderfyniadau cywir yn cael eu gwneud yn gyflymach, ac yn rhoi sicrwydd bod y system gynllunio yno i gefnogi'r cyfleoedd rydyn ni'n gwybod sydd o'n blaenau ni o ran arwain chwyldro gwyrdd, ar lefel y DU ac yn rhyngwladol.  

"Bydd dirprwyo pwerau gwneud penderfyniadau i PEDW ar brosiectau ynni adnewyddadwy hyd at 50MW yn unig yn lleihau'r amser penderfynu o'r dechrau i'r diwedd, weithiau o sawl mis, ac o'u darparu ar y cyd â gwelliannau mewn rhannau eraill o'r system, yn helpu i sicrhau bod y prosiectau cywir yn cael eu hystyried yn drylwyr yn gyflymach.    

"Mae sicrhau bod gan Gymru ddigon o gynllunwyr a gweithwyr proffesiynol cysylltiedig, gyda'r sgiliau cywir yn y meysydd cywir hefyd yn hanfodol i gyflawni polisïau Llywodraeth Cymru, gydag ymgynghoriad eang yn ddiweddarach y mis hwn yn nodi cynigion sy'n gwella capasiti a gwytnwch gwasanaethau cynllunio.  

"Rydyn ni i gyd eisiau gweld system gynllunio flaengar gydag adnoddau da a dyna'n union fydd y cynigion hyn yn helpu i'w gyflawni."  

O ran y camau nesaf i'r sector adnewyddadwy y tu hwnt i ddiwygio cynllunio, ychwanegodd Ysgrifennydd y Cabinet:   

"Mae ein camau nesaf yn cynnwys gweithio gyda diwydiant i ddatblygu bargen sector ar gyfer ynni adnewyddadwy.  Y nod fydd i’r llywodraeth, diwydiant a rhanddeiliaid eraill fynegi gweledigaeth a chamau gweithredu a rennir i gefnogi'r gwaith o gyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy. Mae angen gweithredu arnom i gael gwared ar rwystrau a gwella canlyniadau ar gyfer cadwyni cyflenwi, sgiliau, cyflogaeth a buddion cymunedol.    

"Mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n gadarn yn ein hymrwymiad i ynni adnewyddadwy. Trwy gydweithio â chymunedau, datblygwyr a rhanddeiliaid, byddwn yn cyflawni ein targedau ynni adnewyddadwy, rhoi hwb i'n heconomi ac yn cefnogi ein huchelgais gyffredin ar gyfer pŵer glân erbyn 2030."