English icon English

Llywodraeth Cymru yn lansio ei Strategaeth Genedlaethol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol

Welsh Government launches its National Strategy for Flood and Coastal Erosion Risk Management (FCERM)

Mae Strategaeth newydd Cymru sy'n ymdrin â llifogydd ac erydu arfordirol yn nodi'r ffordd y byddwn yn helpu i leihau'r risgiau i gymunedau a busnesau ledled Cymru ac yn addasu i'r newid yn ein hinsawdd.

Cyhoeddwyd y Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yng Nghymru heddiw (dydd Mawrth 20 Hydref) gan Lesley Griffiths, sef Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig.

Mae'r Strategaeth yn nodi ein polisïau hirdymor ar gyfer rheoli llifogydd, yn ogystal â'r mesurau y bydd sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru, awdurdodau lleol a chwmnïau dŵr yn eu rhoi ar waith dros y degawd nesaf i wella'r ffordd rydym yn cynllunio, yn paratoi ac yn addasu i newid yn yr hinsawdd dros y ganrif sydd i ddod.

Mae'r Strategaeth yn canolbwyntio ar fwy na'r gwaith o adeiladu amddiffynfeydd yn unig ac yn nodi bod yn rhaid inni reoli'r perygl o lifogydd a'r perygl arfordirol gan ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau a chamau gweithredu. Mae hefyd yn cydnabod bod llifogydd yn fater sy'n effeithio ar bob rhan o'n cymdeithas a bod angen defnyddio dull cyfunol er mwyn mynd i'r afael ag ef.

Mae'n amlinellu rhai o'r gwersi a ddysgwyd o'r llifogydd a welwyd ledled Cymru eleni, ac yn ystyried y gwaith a gwblhawyd gan Lywodraeth Cymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf i fynd i'r afael â'r perygl o lifogydd.

Rhan allweddol o hyn yw sicrhau nad ydym yn gwneud camgymeriadau a allai arwain at fwy o berygl i genedlaethau'r dyfodol. Bydd y Strategaeth newydd yn helpu i atal hyn drwy gysylltu â'r canllawiau cynllunio newydd a gaiff eu cyhoeddi y flwyddyn nesaf, er mwyn sicrhau na fydd cymunedau a gaiff eu hadeiladu yn y dyfodol yn wynebu risg y gellir ei hosgoi.

Mae'r Strategaeth hefyd yn pwysleisio'r ffaith y gellir cyfleu risg yn well drwy alluogi cartrefi i ddeall eu risg eu hunain, ystyried sut mae angen iddynt gynllunio ar gyfer llifogydd a bod yn rhan o'r trafodaethau sy'n ymwneud â rheoli'r risgiau i'w cymuned o'r dechrau.

Bydd Map Llifogydd Cymru, a gaiff ei lansio heddiw, yn rhan o'r dull newydd o wella'r ffordd rydym yn trafod risg.

Bydd Map Llifogydd Cymru yn dod â’n holl fapiau o berygl llifogydd a risg o lifogydd arfordirol ynghyd mewn un lle, gan ddechrau gyda'r Asesiad Perygl Llifogydd ar gyfer Cymru (FRAW). 

Am y tro cyntaf erioed, bydd hwn yn dangos y perygl o lifogydd o bob ffynhonnell ac yn cynnwys gwybodaeth am arfordiroedd ac asedau. Caiff y Mapiau FRAW eu diweddaru bob chwe mis fel y gall pobl weld sut mae ein cynlluniau llifogydd wedi lleihau'r perygl, gan helpu i leihau costau yswiriant pobl a rhoi tawelwch meddwl i'r cymunedau yr effeithir arnynt.

Bydd hyn yn cyd-fynd â Map Llifogydd newydd ar gyfer Cynllunio a chyngor cliriach ar gynllunio y flwyddyn nesaf, gan sicrhau y gall awdurdodau wneud penderfyniadau mwy hyddysg ar ddatblygu a bod ganddynt ddealltwriaeth well o'r risg.

Wrth lansio'r Strategaeth, dywedodd Ms Griffiths ‘‘Cefais brofiad uniongyrchol o effaith ddinistriol y llifogydd a effeithiodd ar dros 3,000 o gartrefi a busnesau ledled y wlad. Gan fod y tebygolrwydd y byddwn yn gweld rhagor o’r digwyddiadau tywydd eithafol hyn yn cynyddu, mae angen inni gryfhau ein dull o reoli'r perygl o lifogydd a'r risg o lifogydd arfordirol a'i addasu er mwyn helpu i gadw pobl yn ddiogel. 

“Yn sgil hyn, rwy'n fwy penderfynol o atgyfnerthu ein hymrwymiadau o ran atal llifogydd, meithrin gwydnwch ac addasu i'r hinsawdd. Rwy'n awyddus i Gymru arwain y ffordd gyda'r gwaith hwn a chaiff hyn ei adlewyrchu yn ein Strategaeth Genedlaethol newydd.

“Mae'r Strategaeth yn nodi sut y byddwn yn gwneud y penderfyniadau cywir wrth inni geisio diogelu pobl, cartrefi a busnesau rhag perygl cynyddol o lifogydd. Rydym yn gwneud newidiadau sylweddol er mwyn helpu i gyflymu ein proses gyflwyno a chyfleu risg yn well. Mae’r rhain yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau lliniaru a mapiau perygl llifogydd newydd.

“Rydym eisoes yn gweld bod ein dulliau newydd yn dwyn ffrwyth. Y bwriad oedd cyflwyno’r gwelliannau a wnaed i'r Rhaglen Llifogydd ac Arfordiroedd ym mis Ebrill ar y cyd â'r Strategaeth Genedlaethol newydd, ond cawsant eu rhoi ar waith yn gynt er mwyn helpu i roi cymorth i gymunedau cyn gynted â phosibl ac i annog cynlluniau newydd a gwaith cynnal a chadw hanfodol lle y bo angen.’’

Ychwanegodd y Gweinidog: “Rwyf am i'r Strategaeth sbarduno trafodaeth am sut rydym yn rheoli'r perygl o lifogydd. Er bod ein darpariaeth wedi cynyddu fwy nag erioed yn y maes hwn, a'n bod wedi buddsoddi mwy o arian nag erioed o’r blaen, ni allwn atal pob achos o lifogydd. Rwyf hefyd yn cydnabod bod y Strategaeth hon yn cael ei lansio mewn cyfnod ansicr – yn sgil y pwysau sy’n deillio o COVID-19, a'n hymateb parhaus i'r llifogydd diweddar.

“Felly, rwyf am sicrhau bod ein negeseuon yn glir a bod ein buddsoddiadau'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Bydd hyn yn helpu pawb ledled Cymru i ddeall sut y gallant chwarae eu rhan i leihau'r risg dros y blynyddoedd i ddod.’’

Rhwng 2016 a 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £390miliwn mewn helpu i reoli'r perygl o lifogydd, gan leihau'r perygl i dros 45,000 o eiddo ledled Cymru.

Yn dilyn y llifogydd eleni, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi buddsoddi dros £4.4m mewn gwaith atgyweirio yn sgil llifogydd.

Mae'r newidiadau diweddar o ran cyllid yn cynnwys cymorth llawn i baratoi a dylunio cynlluniau llifogydd newydd, cynyddu cyfraddau grantiau ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd arfordirol i 85% a chyflwyno rhaglen rheoli llifogydd naturiol newydd sy’n werth £2m.

Dyma'r Strategaeth Genedlaethol gyntaf i gynnwys deddfwriaeth Gymreig sy’n ymwneud â’r amgylchedd, llesiant a draenio cynaliadwy. Mae'r Pwyllgor Llifogydd ac Erydu Arfordirol hefyd wedi cefnogi'r strategaeth, ac mae ei ymgynghoriadau wedi bod yn hollbwysig er mwyn helpu i lywio a chryfhau'r ddogfen.

Dywedodd Martin Buckle, Cadeirydd y Pwyllgor, “Dangosodd y llifogydd yn gynharach eleni fod yr argyfwng hinsawdd yn effeithio ar bobl gyffredin mewn cymunedau a busnesau ledled Cymru, a bod angen cryfhau ein gwydnwch ar unwaith.

“Gan fod lefelau'r môr yn cynyddu, mae'r Strategaeth newydd hefyd yn pwysleisio bod angen blaenoriaethu cynlluniau a chamau gweithredu ar gyfer yr hirdymor mewn ardaloedd arfordirol, yn enwedig o ystyried pwysigrwydd yr arfordir i'n cymunedau, ein busnesau a'r amgylchedd.

Mae'r Strategaeth Genedlaethol newydd yn gam mawr ymlaen o ran darparu'r arweinyddiaeth sydd ei hangen i fynd i'r afael â'r heriau hyn. Mae'r Pwyllgor yn benderfynol o chwarae rhan lawn wrth roi'r Strategaeth ar waith. Mae angen cynnal trafodaethau ehangach a pharhaus ledled Cymru am sut y gallwn ymateb i'r perygl o lifogydd, ac mae'r Strategaeth newydd yn sail ddelfrydol ar  gyfer gwneud hyn.

“Er ein bod yn croesawu'r ymrwymiad i gymryd camau cynnar, bydd angen i bob parti gydweithio er mwyn sicrhau y gellir rhoi rhaglen aml-flwyddyn effeithiol ar waith ar gyfer y tymor hwy.”

DIWEDD