Llywodraeth Cymru yn lansio grant gwerth £400,000 i helpu grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy’n sefyll i gael eu hethol
Welsh Government launches £400,000 grant to support underrepresented groups standing for election
Mae Llywodraeth Cymru yn treialu cynllun newydd sef cynllun Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr i helpu pobl o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll am swyddi etholedig mewn etholiadau datganoledig.
Bydd y cynllun yn cael ei lansio yr hydref hwn ac mae’n gam allweddol tuag at adeiladu democratiaeth fwy cynhwysol yng Nghymru sy’n adlewyrchu’n well y bobl y mae’n eu gwasanaethu.
Mae cynrychiolaeth fwy amrywiol yn golygu y gall penderfyniadau gael eu llywio gan ystod ehangach o safbwyntiau a phrofiadau bywyd. Gall hyn, yn ei dro, arwain at fwy o hyder ac ymddiriedaeth yn ein systemau democrataidd.
Bydd cyllid gwerth £400,000 ar gael dros ddwy flynedd i ariannu sefydliadau sy’n rhoi cymorth ymarferol i ddarpar ymgeiswyr - megis mentora, hyfforddiant, gwybodaeth, coetsio, offer, a chymorth gyda thasgau.
Bydd y grant yn targedu etholiad y Senedd yn 2026 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2027, gan helpu i wella amrywiaeth ar lefel leol a chenedlaethol.
Mae’r cynllun peilot yn ymateb i ddyletswydd newydd o dan Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ddarparu gwasanaethau sy’n hyrwyddo amrywiaeth o ran nodweddion gwarchodedig ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol pobl sy’n ceisio swyddi etholedig yng Nghymru.
Bydd yn cael ei roi ar waith gan ddefnyddio fframwaith y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth, sydd eisoes yn ariannu prosiectau sy’n hyrwyddo ymwneud â phrosesau gwleidyddol ymhlith grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, grwpiau sydd newydd gael yr hawl i bleidleisio a phobl anabl. Mae’r dull gweithredu hwn yn caniatáu i Lywodraeth Cymru ddefnyddio’n gyflym seilwaith a rhwydweithiau grantiau sy’n bodoli eisoes.
Dywedodd Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai: “Rydyn ni eisiau i Gymru fod yn wlad lle gall pawb gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, lle mae eu lleisiau yn cael eu clywed a’u bod yn gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arweinyddiaeth.
“Mae’r cynllun peilot Grant Amrywiaeth Ymgeiswyr yn gam pwysig i nodi a dileu rhwystrau sy’n atal pobl, yn arbennig y rheini sydd â nodweddion gwarchodedig, rhag sefyll am swyddi etholedig.
“Drwy fuddsoddi mewn cymorth ymarferol, rydyn ni’n helpu i sicrhau bod pawb yn cael y cyfle i sefyll a gwasanaethu.”
I wneud cais, bydd angen i sefydliadau cymwys lenwi ffurflen gais, y mae ar gael yma: Gwneud cais am gyllid o dan y cynllun grant peilot amrywiaeth ymgeiswyr etholiadol | LLYW.CYMRU
DIWEDD