Llywodraeth Cymru yn lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar gynllun cartrefi newydd mawr yn Hwlffordd
Welsh Government launches public consultation on major new homes scheme in Haverfordwest
Mae cynlluniau ar gyfer datblygiad tai newydd trawsnewidiol ar safle Lôn Slade, yn Hwlffordd, bellach ar agor ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus, gyda chynigion i ddarparu hyd at 600 o gartrefi cynaliadwy - llawer ohonynt yn rhai fforddiadwy - i helpu i fynd i'r afael â phrinder tai yn y rhanbarth.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru gaffael y safle tai a oedd gynt yn segur yn 2023 i ddatgloi ei botensial a chyflwyno cymuned fywiog a gynlluniwyd yn dda.
Mae'r cynllun yn blaenoriaethu fforddiadwyedd, cynaliadwyedd a hygyrchedd, gyda ffocws cryf ar gefnogi teuluoedd lleol a phrynwyr tro cyntaf.
Gallai nodweddion allweddol y datblygiad arfaethedig gynnwys:
- Hyd at 600 o gartrefi cynaliadwy sy'n gymysg ran meintiau a deiliadaethau
- Ysgol gynradd newydd
- Canolfan leol gyda siop gyfleustra a chaffi
- Canolfan feddygol
- Mannau gwyrdd helaeth a llwybrau teithio llesol wedi'u cynllunio o amgylch coed a pherthi/gwrychoedd presennol
Gallai'r cynllun hefyd gefnogi Hunanadeiladu Cymru, Tai a Arweinir gan y Gymuned a darparu cyfleoedd i adeiladwyr tai ar raddfa fach.
Mae'r ymgynghoriad rhithwir bellach ar agor tan ddiwedd mis Hydref.
Cynhelir digwyddiad wyneb yn wyneb hefyd ddydd Mawrth 21 Hydref yn Haverhub, Quay Street, Hwlffordd rhwng 14:00 a 18:00. Bydd yn cynnig cyfle i breswylwyr lywio’r cynlluniau cyn bod cais cynllunio amlinellol yn cael ei gyflwyno i Gyngor Sir Penfro yn 2026.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant: "Mae datblygiad Lôn Slade yn ymateb yn uniongyrchol i'r heriau sy'n wynebu teuluoedd sy'n gweithio a phobl ifanc wrth gael mynediad at gartrefi sydd nid yn unig yn fforddiadwy ond hefyd yn gallu gwrthsefyll newid hinsawdd ac yn effeithlon o ran adnoddau.
"Edrychaf ymlaen at ganlyniadau'r ymgynghoriad hwn, a fydd yn allweddol i sicrhau, y tu hwnt i gartrefi, ein bod yn adeiladu cymuned ffyniannus sy'n diwallu anghenion a disgwyliadau preswylwyr lleol.”
I gael gwybod mwy a chymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar-lein, ewch i: www.lonslade.cymru
DIWEDD