Llywodraeth Cymru yn rhoi hwb i gyllid ar gyfer cartrefi cymdeithasol cynhesach a rhatach
Welsh Government boosts funding for warmer, cheaper social homes
Bydd miloedd yn rhagor o denantiaid tai cymdeithasol yng Nghymru yn elwa o gartrefi cynhesach a biliau ynni is wrth i Lywodraeth Cymru gyhoeddi £14.1 miliwn ychwanegol ar gyfer gwelliannau effeithlonrwydd ynni.
Mae'r hwb ariannol yn dod â chyfanswm y buddsoddiad yn y Rhaglen Ôl-osod er mwyn Optimeiddio (ORP) i £107.1 miliwn eleni. Ers 2020, mae'r rhaglen eisoes wedi ariannu 31,000 o uwchraddiadau effeithlonrwydd ynni mewn cartrefi cymdeithasol ledled Cymru, gan dorri biliau cartrefi tra'n lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr.
Mae'r ORP yn ariannu gwelliannau sy'n cynnwys inswleiddio, systemau gwresogi effeithlon a gosodiadau ynni adnewyddadwy mewn tai cymdeithasol. Mae landlordiaid cymdeithasol sy'n gweithio drwy'r rhaglen yn monitro dangosyddion iechyd fel lefelau llwydni a lleithder, gan eu galluogi i ddarparu cyngor a chymorth wedi'i dargedu i denantiaid sy'n agored i niwed.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant: "Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod safonau uchelgeisiol ar gyfer tai cymdeithasol newydd a phresennol i sicrhau bod cartrefi yn ddiogel, yn gyfforddus, yn iach ac yn garbon isel.
"Mae'r cyllid ORP ychwanegol hwn yn dangos ein hymrwymiad i helpu landlordiaid cymdeithasol fel Hedyn i fodloni'r safonau hyn, gan fynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid hinsawdd, a chefnogi'r gwaith o greu swyddi gwyrdd."
Roedd Ysgrifennydd y Cabinet yn siarad yn Nhredegar lle ymwelodd â chynllun tai gwarchod wedi'i ôl-osod gan Hedyn, i weld effaith y rhaglen yn uniongyrchol.
Cyfarfu â thrigolion sy'n elwa o'r gwelliannau, gan gynnwys John Nicholls - cyn-genhadwr 94 oed - y mae ei gostau ynni blynyddol wedi gostwng yn sylweddol ar ôl uwchraddio ei gartref.
Dywedodd Mr Nicholls: "Rydw i wedi byw yn y fflat hon ers 30 mlynedd a dyma'r gorau erioed. Mae'n wych nawr. Mae'n gynnes a gallaf gadw llygad arno drwy'r amser.
"Os ydw i allan, rwy'n defnyddio'r ap ar fy ffôn i droi'r gwres ymlaen cyn i mi gyrraedd adref."
Cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet hefyd â syrfëwr datgarboneiddio Tai Hedyn, Callum Davies.
Elwodd Callum o'r Cyfrif Dysgu Personol i ennill ei gymwysterau aseswr ôl-osod ac ar hyn o bryd mae yn ei ail flwyddyn o radd pedair blynedd yn PDC mewn Tirfesur Adeiladu.
Meddai Callum: "Diolch i fuddsoddiad Hedyn mewn systemau gwresogi a dŵr poeth carbon isel a'r gefnogaeth a ddarperir gan gyllid ORP Llywodraeth Cymru, rwyf wedi gallu symud fy ngyrfa ymlaen mewn ffyrdd nad oeddwn erioed wedi meddwl eu bod yn bosibl. Rydw i wedi symud o weithio ar yr offer i ddod yn aseswr ôl-osod cymwysedig, sydd wedi agor llwybr hollol newydd i mi. Rwyf bellach yn astudio am radd drwy'r cynllun prentisiaethau gradd, sydd hefyd yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru ac rwy'n datblygu mwy o sgiliau. Rwyf wrth fy modd bod fy ngwaith yn fy helpu i greu cartrefi gwyrddach, cynhesach, mwy effeithlon i'n preswylwyr. Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfleoedd y mae'r rhaglen ORP wedi'u rhoi i mi."