English icon English

Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw i’r ‘pethau pwysicaf ym mywydau pob dydd pobl’ wrth i’r Prif Weinidog gyhoeddi’r rhaglen ddeddfwriaethol

First Minister says the Welsh Government is focussed on ‘what matters most in people's daily lives’ as he announces legislative programme

Heddiw (dydd Mawrth, 9 Gorffennaf) mae’r Prif Weinidog, Vaughan Gething, wedi rhannu ei flaenoriaethau deddfwriaethol gan ddweud ei fod am sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn creu “dyfodol uchelgeisiol ar gyfer Cymru decach, gryfach a gwyrddach.”

Mae’r darnau o ddeddfwriaeth sydd i’w cyflwyno yn ystod gweddill tymor y Senedd hon yn cynnwys camau i wella cysylltiadau trafnidiaeth ledled y wlad, diogelu pobl a chymunedau, ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd.

Mae’r rhaglen yn cynnwys:

  • Bil Bysiau, a fydd yn galluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i gynllunio un rhwydwaith bysiau cydgysylltiedig sy’n rhoi teithwyr cyn elw ac yn helpu pobl i beidio â defnyddio car ar gyfer pob taith.
  • Bil Diogelwch Adeiladau, a fydd yn diwygio’r drefn diogelwch adeiladau sydd ohoni yng Nghymru yn sylfaenol ac yn mynd i’r afael â materion sy’n gysylltiedig â diogelwch tân mewn adeiladau 11 metr ac uwch sy’n rhan o’r stoc adeiladau sydd eisoes yn bod.
  • Bil Tomenni Nas Defnyddir (Mwyngloddiau a Chwareli), a fydd yn diwygio cyfreithiau sydd wedi dyddio ynghylch diogelwch tomenni ac yn rhoi mwy o sicrwydd i’r bobl sy’n byw yn eu cysgod.
  • Bil Digartrefedd, a fydd yn cynnwys pecyn o ddiwygiadau sylweddol i helpu pobl yng Nghymru i aros yn eu cartrefi ac atal unrhyw un rhag profi digartrefedd.
  • Bil Llety Ymwelwyr (Rheoleiddio), a fydd yn golygu y bydd yn rhaid i unrhyw un sy’n gosod llety i ymwelwyr fodloni set berthnasol o safonau i helpu i sicrhau diogelwch ymwelwyr a gwella profiad ymwelwyr.
  • Bil Egwyddorion Amgylcheddol a Bioamrywiaeth, sy’n dangos ein bod wedi ymrwymo o hyd i fynd i’r afael â’r argyfwng natur a hinsawdd drwy sefydlu corff llywodraethiant amgylcheddol statudol i Gymru a chyflwyno targedau cyfreithiol i ddiogelu ac adfer bioamrywiaeth.
  • Bil i roi pwerau i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr a fydd yn codi tâl ychwanegol bach ar ymwelwyr sy’n aros dros nos mewn llety i ymwelwyr, gan helpu i gefnogi twristiaeth gynaliadwy.

Yn ogystal, tua diwedd tymor y Senedd hon, bydd Bil yn cael ei gyflwyno i symleiddio a moderneiddio’r gyfraith gynllunio yng Nghymru. Dywedodd y Prif Weinidog fod y system bresennol yn “mynd yn fwyfwy anhygyrch a’i bod yn rhy gymhleth.”

Cadarnhaodd y Prif Weinidog hefyd y byddai Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar Fil drafft Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Prif Weinidog: “Mae ein camau gweithredu blaenorol a’n cynlluniau ar gyfer y dyfodol yn dangos ein hymrwymiad i newid radical a thrawsnewidiol ym mhob cwr o Gymru wrth inni ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y pethau pwysicaf ym mywydau pob dydd pobl.

“O ail-lunio’r system drafnidiaeth gyhoeddus yn llwyr i ddiogelu ein seilwaith hanfodol ac amddiffyn yr amgylchedd, bydd ein rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl ledled Cymru.

“Rwy’n edrych ymlaen at adnewyddu’r bartneriaeth, yng ngwir ystyr y gair, â Llywodraeth newydd y Deyrnas Unedig ac at barhau i weithio gyda’r Aelodau ar draws y Siambr hon wrth inni anelu at ddatgloi mwy o gyfleoedd ledled Cymru a sicrhau newid cadarnhaol a blaengar.”

DIWEDD